Mae'r Cyngor yn parhau i weld cynnydd yn y gwastraff a'r sbwriel sy'n cael eu hailgylchu, eu hail-ddefnyddio a'u compostio (gwastraff bwydydd) diolch i ymrwymiad rhagorol ein trigolion, a'u gallu i gefnogi'r Cyngor wrth iddo wella'r gwasanaethau sydd ar gael.
Mae Carfan Gofal Strydoedd y Cyngor wedi bod yn gweithio'n ddi-ben-draw i wella ei ffigyrau ailgylchu. Er mwyn cyflawni hyn, roedd rhaid gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd roedd gwastraff yn cael ei gasglu. Mae'r ffigyrau hyn yn dangos bod y newidiadau wedi helpu'r Fwrdeistref Sirol i fod mor lân a gwyrdd ag sy'n bosibl, gan ofalu bod y Cyngor yn osgoi dirwyon mawr gan Lywodraeth Cymru.
Rydyn ni i gyd eisiau byw mewn bwrdeistref sirol lân ac atyniadol y gallwn ni ymfalchïo ynddi. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi osgoi bod miloedd o dunelli o wastraff yn cael ei arllwys i safleoedd tirlenwi. Mae rhaid i bawb sylweddoli bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae ynglŷn ag ailgylchu rhagor o wastraff. Os nad ydych chi'n ailgylchu ar hyn o bryd, mae angen i chi gychwyn. O beidio â gwneud hynny, fe allai hi fod yn gostus i chi, i'r Cyngor, ac i'ch cyd-drigolion.
Os na fydd y Cyngor yn bwrw targedau Llywodraeth Cymru, fe gaiff e ddirwyon sylweddol a allai olygu bydd gwasanaethau rheng-flaen yn cael eu heffeithio.
Shampŵ, sebon llaw, cannydd a hylif glanhau'r ystafell ymolchi – beth sydd gyda'r rhain i gyd yn gyffredin?
Maen nhw i gyd mewn poteli plastig, ac mae modd eu hailgylchu! www.recyclenow.com
Manteision ailgylchu
- mae llai o sbwriel yn llenwi'r tir – mae llai o sbwriel yn cael ei anfon i gladdfeydd sbwriel. Mae dros 1,500 o gladdfeydd (Safleoedd tirlenwi) yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'r safleoedd yma yn cynhyrchu nwy methan niweidiol sy, i bob diben, yn tynnu adnoddau mae modd eu hailddefnyddio allan; llygru'r tir, dŵr, a'r aer; ac mae'r safleoedd yn llenwi'n gyflym iawn.
- oeddech chi'n gwybod... Mae claddfeydd yn cynhyrchu tua chwarter o allyriadau methan yng ngwledydd Prydain. Nwy tŷ gwydr yw e sy'n ugain gwaith yn fwy cryf na charbon deuocsid.
Beth alla i ei ailgylchu?
O ble galla i gael bagiau ailgylchu?
Manteision Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd/Gwastraff o'r Ardd
- mae'r holl wastraff o'r ardd y bydd y Cyngor yn ei gasglu yn cael ei droi'n wrtaith (compost). Mae'r gwrtaith hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn parciau a lleiniau garddio (rhandiroedd) neu ar gyfer cynlluniau adfer tiroedd a gwaith tirlunio.
- mae tua 10% o gynnwys eich bag du neu fin gwastraff yn weddillion bwyd o'r gegin. Os byddwch chi'n rhoi'r rhain yn eich bag du neu fin, byddan nhw'n mynd i gladdfeydd sbwriel, gan gynhyrchu nwyon llygru wrth iddyn nhw bydru. Felly, ailgylchwch nhw, da chi, yn hytrach na'u rhoi yn eich bag du neu fin.
Beth alla i ei ailgylchu?
O ble galla i gael bagiau ailgylchu?
Manteision ailgylchu gwastraff bwyd
- mae modd i chithau arbed arian hefyd, trwy brynu dim ond y bwyd y byddwch chi'n ei fwyta – gan fod y cyfan o'ch gwastraff bwyd mewn un bin, mae modd ichi weld cymaint o fwyd byddwch chi'n ei wastraffu ac yn sicrhau na fyddwch chi'n mynd dros ben llestri yn yr archfarchnad.
- anfonwch lai o wastraff sy'n mynd i gladdfeydd. Bydd hynny'n lleihau'r nwyon tirlenwi sy'n cael eu rhyddhau.
- mae modd troi gwastraff bwyd sydd wedi'i ailgylchu yn wrtaith buddiol.
- archebwch fagiau ar gyfer eich cadi gwastraff bwyd Diwrnod Casglu Gwastraff Bwyd
Beth alla i ei ailgylchu?
O ble galla i gael bagiau ailgylchu?
Manteision ailgylchu cewynnau
- ar hyn o bryd, mae 3 biliwn o gewynnau untro yn cael eu cludo i safleoedd tirlenwi ar hyd a lled y Deyrnas Unedig bob blwyddyn (neu 8 miliwn y dydd) – mae hynny'n llawer o becynnau bach gwyntog sy'n cael eu gadael i bydru!
- ar ôl dwy flwydd a hanner, bydd pob plentyn, ar gyfartaledd, wedi defnyddio tua 6,500 o gewynnau – sydd gyfwerth â thros 10 tunnell o wastraff, 40 llond sach du y pen bob blwyddyn, neu gynifer â 70,000 o fysiau deulawr, un tu ôl y llall, rhwng Caeredin a Llundain.
- mae cewynnau untro wedi'u gwneud o blastig, elastig, glud, mwydion papur a chemegau sydd ddim yn diraddio'n rhwydd, ac mae'n bosibl iddyn nhw ollwng tocsinau i mewn i'r ddaear. A dweud y gwir, mae'n debyg y gallai gymryd cannoedd o flynyddoedd (neu fwy na 500 o flynyddoedd, yn ôl rhai) cyn i gewynnau untro ddechrau diraddio.
- ar ben hynny, mae'r baw sydd ynddyn nhw yn golygu bod methan – sef un o'r nwyon tŷ gwydr sydd tua dwywaith mor wael â charbon deuocsid – yn cael ei ryddhau wrth iddyn nhw bydru, gan gyfrannu at gynhesu byd eang. A dweud y gwir, mae nifer y cewynnau untro sy'n cael eu defnyddio gan bob plentyn gyfwerth â hyd at 630kg o fethan – sef cymaint â'r hyn mae car yn ei gynhyrchu dros 1,800 o filltiroedd.
Sut galla i gofrestru ar gyfer y cynllun?
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.