Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Roedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am statws preswylydd sefydlog ym mis Mehefin 2021. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector, a Newfields Law, cyfreithwyr sy'n arbenigo ym maes mewnfudo a statws preswylydd sefydlog, i ddarparu cymorth parhaus i ddinasyddion yr UE, a gwladolion yr AEE a’r Swistir, sy’n dymuno parhau i fyw a gweithio yng Nghymru tan o leiaf 31 Mawrth 2022.
Cysylltwch â Claire Williamson Claire.williamson@cacv.org.uk i gael rhagor o wybodaeth
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Mae modd dod o hyd i wybodaeth ynghylch pwy sydd angen gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog ar wefan Gov.uk: (https://www.gov.uk/settled-status-ue-citizens-families).
Fydd dim newidiadau i hawliau cyfredol dan ddeddfwriaeth UE tan ddiwedd y cyfnod gweithredu wedi'i gynllunio, sef 31 Rhagfyr 2020.
Gwirio Hunaniaeth
Bydd angen ffôn neu lechen Android cytûn os ydych chi'n dymuno sganio'ch dogfen hunaniaeth; gallwch chi ddefnyddio'ch ffôn neu lechen eich hun neu un sy'n perthyn i rywun arall.
Os nad oes gan eich ffôn neu ddyfais arall adnodd NFC (near field communication) bydd modd i chi drefnu apwyntiad er mwyn dod â'ch dogfen ID i ni, lle bydd modd i ni ei sganio a'i gwirio. Yna bydd modd i chi wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog.
Fyddwn ni ddim angen cadw'ch dogfen ID ac yn y rhan fwyaf o achosion, dylech chi ddim cael eich gofyn i anfon eich pasbort i unman arall yn ystod y broses gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.
Nodwch: os ydych chi eisoes wedi cyflwyno'ch cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog yna mae gofyn i chi anfon eich dogfen ID trwy'r post i'r Swyddfa Gartref, hyd yn oed os ydych chi'n mynychu Gwasanaeth Sefydlogi UE'r Awdurdod Lleol. Os ydych chi wedi ceisio defnyddio'r broses hunan-wasanaeth ac wedi cyflwyno'ch cais heb gwblhau'r broses wirio ID, yna cysylltwch â'r Swyddfa Gartref, https://www.gov.uk/contact-ukvi-inside-outside-uk/y/inside-the-uk/eu-settlement -scheme-settled-and pre-settled-status
Os ydych chi'n dymuno trefnu apwyntiad i ddefnyddio'r Gwasanaeth Sefydlogi UE yn Rhondda Cynon Taf:
Dyma oriau agor y swyddfa:
- Dydd Llun i ddydd Gwener - 9.30am tan 1pm a 1.30pm tan 4pm.
Beth sydd angen i chi ddod â chi i'r apwyntiad
Eich pasbort biometrig dilys UE, AEE neu Swisaidd cyfredol, neu Drwydded Preswylio Biometrig (BRP) ar gyfer aelodau'r teulu sy'n ddinasyddion yr UE, AEE, neu sy'n ddinasyddion Swisaidd.
Ffôn symudol a all dderbyn negeseuon testun neu ddyfais sy'n gallu derbyn e-bost.
Dim ond y dogfennau ID uchod sy'n gallu cael eu gwirio gennym ni. Os nad oes gyda chi un o'r dogfennau ID uchod, yna cliciwch ar y ddolen isod i weld eich opsiynau.
Dysgu rhagor am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (https://www.gov.uk/setteld-status-eu-citizens-families)
Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - help a chyngor
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan newydd i ddod ag ystod o wybodaeth ynghyd ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru a hyrwyddo'r wybodaeth yma. Gweler y ddolen: http://www.eusswales.com/cy/