Skip to main content

Sefydliadau Ymbarél

Blynyddoedd Cynnar Cymru

Ers 1961, Blynyddoedd Cynnar Cymru yw'r sefydliad ymbarél mwyaf sy'n cynnig ystod o wasanaethau aelodaeth cynhwysfawr i'r sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. 

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

https://www.blynyddoeddcymru.cymru

Early years wales
PACEY

Cymdeithas PACEY yw'r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar.  Wedi'n ffurfio yn 1977, rydyn ni'n elusen sy'n ymroi i roi cymorth i bawb sy'n gweithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal a dysgu cynnar o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.

Rydyn ni'n darparu hyfforddiant, cymorth ymarferol a chyngor arbenigol i ymarferwyr sy'n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth ac anogaeth gan gyfoedion trwy ein rhwydwaith ledled y wlad o Hyrwyddwyr PACEY.

Ein cenhadaeth yw rhoi cymorth i bawb sy'n gweithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal plant a dysgu cynnar o ansawdd uchel; a hyrwyddo'r swyddogaeth hanfodol sydd gan ymarferwyr wrth helpu i baratoi plant ar gyfer dyfodol disglair.  Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

https://www.pacey.org.uk/

pacey
Mudiad Meithrin

Sefydliad gwirfoddol yw Mudiad Meithrin a dyma brif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru elwa o brofiadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

https://www.meithrin.cymru

Mudiad
NDNA 

Am gymorth pan fydd ei angen arnoch chi fwyaf, ymunwch â NDNA heddiw.  

Mae NDNA yn rhoi’r cyngor calonogol, arbenigol a'r adnoddau arbed amser i chi sy’n eich caniatáu i ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi'n ei wneud orau, sef gofalu am blant yn y blynyddoedd cynnar. Ymunwch â NDNA ar gyfer:

  • Llais cryfach ar faterion sy'n hanfodol i'ch busnes
  • Adnoddau arbed amser a chyngor arbenigol, calonogol
  • Mynediad at ragor o wybodaeth, ynghyd â hyfforddiant a syniadau i helpu i wella ymarfer 
  • Yn ogystal ag arbedion mawr ar hanfodion i'r feithrinfa. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

http://www.ndna.org.uk

NDNA
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Mae Clybiau Plant Cymru yn bodoli i helpu cymunedau yng Nghymru trwy hybu, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sydd o ansawdd, yn fforddiadwy ac yn hygyrch.

 

Rydyn ni'n sefydliad ledled Cymru sy'n helpu i sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol. Rydyn ni'n helpu clybiau neu ddarpar glybiau i wneud cais am gyllid ac rydyn ni'n hyfforddi ac yn cefnogi staff y clwb yn ystod y cyfnod sefydlu ac wrth i'r clwb gael ei gynnal wedi hynny. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

https://www.clybiauplantcymru.org/                    

Kids club