Grant bellach ar gau
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi'r sector gofal plant yn Rhondda Cynon Taf wrth iddo ymdopi â'r heriau sydd wedi dod i law yn sgil COVID-19. Pwrpas y grant yw:
Cefnogi lleoliadau sydd wedi gorfod cau'n llwyr neu'n rhannol oherwydd achosion positif o COVID-19 neu oherwydd eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu. Mae modd gwneud ceisiadau'n ôl-weithredol ar gyfer unrhyw gyfnod lle roedd angen cau’n llawn neu’n rhannol o 1 Ebrill 2021 hyd at 6 Awst 2021. O 7 Awst 2021 ymlaen, bydd y grant ddim ond yn cynnwys gwarchodwyr plant neu leoliadau sydd wedi cael cyfarwyddyd i gau gan y garfan Profi, Olrhain, Diogelu yn sgil achosion clwstwr. Darllenwch nodiadau canllaw'r grant sydd wedi'u cynnwys i gael eglurhad pellach.
Mae modd hawlio'r Grant yma hyd at uchafswm o 3 gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol yma.
Grant bellach ar gau
Talu am gostau uwch sy'n gysylltiedig â COVID-19, megis costau ychwanegol o ran gwresogi, glanhau neu wisgoedd - neu gostau sy'n gysylltiedig ag eiddo oherwydd nad oes modd i leoliadau agor na gweithredu hyd eithaf eu gallu.
Grant bellach ar gau
Darparu cefnogaeth ariannol i leoliadau gofal plant sy'n profi caledi ariannol difrifol oherwydd COVID-19 a lle nad oes cyllid cyhoeddus arall ar gael i dalu'r costau hynny. Mae'r grant yma'n cynnwys cynaliadwyedd yn y tymor byr, ac rydyn ni’n argymell bod unrhyw leoliadau sy'n debygol o roi'r gorau i weithredu o fewn y 6 mis nesaf i gysylltu â'r garfan gofal plant yn uniongyrchol
CYN llenwi'r ffurflen gais.
Grant bellach ar gau
Y dyddiad cau o ran derbyn ceisiadau ar gyfer pob adran yw Dydd Llun 28 Chwefror 2022. Mae modd dwyn y dyddiad cau ymlaen os fydd holl arian sydd ar gael eisoes wedi'i ddyrannu.
Darllenwch y nodiadau canllaw sydd ynghlwm: Grant i Ddarparwyr Gofal Plant 2021-2022 Canllawiau i ymgeiswyr
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r grantiau, anfonwch e-bost i GrantiauGofalPlantRhCT@rctcbc.gov.uk