Skip to main content

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Mae gan bob Awdurdod Lleol ddyletswydd statudol i arolygu'r farchnad gofal plant er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal plant addas yn yr ardal leol i alluogi rhieni/cynhalwyr i gael addysg neu hyfforddiant er mwyn pontio i mewn ir gwaith. 

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022-27

Mae'r Adroddiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (CSA) ddiweddaraf yn cynnig asesiad o'r ddarpariaeth ac angen presennol am ofal plant yn RhCT.  Mae cynllun gweithredu wedi cael ei baratoi yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r adroddiad.  Bydd yr adroddiad yma'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn er mwyn sicrhau fod yr holl weithredoedd yn y CSA yn cael sylw dros y bum mlynedd nesaf.

 Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r CSA, neu am sut i ddatblygu gwasanaethau gofal plant yn eich ardal chi, e-bostiwch CarfanGofalPlant@rhondda-cynon-taf.gov.uk.