Skip to main content

Recriwtio Gwarchodwyr Plant

Ydych chi wedi ystyried gyrfa ym maes Gwarchod Plant?

Mae'n yrfa gwerth chweil a hyblyg

Mae Carfan Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) yma i'ch cefnogi chi i sefydlu eich busnes gwarchod plant newydd.  Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol byddai'r garfan wrth ei bodd yn clywed gennych chi.

Beth yw gwarchodwr plant?

Fel gwarchodwr plant rydych chi'n gweithio yn eich cartref eich hun, yn gofalu am blant pobl eraill.

Os ydych chi'n mwynhau gofalu am blant ac yn teimlo y gallech chi gefnogi eu datblygiad parhaus, efallai mai dyma'r yrfa ddelfrydol i chi.

Ai dyma'r yrfa iawn i fi?

Er mwyn bod yn warchodwr plant llwyddiannus bydd y rhinweddau canlynol yn eich helpu ar eich taith tuag at yrfa lwyddiannus:

  • Bod yn hyblyg
  • Gallu addasu
  • Mwynhau gweithio â phlant
  • Wedi ymrwymo i roi gofal o safon
  • Yn frwdfrydig i redeg eich busnes eich hun
  • Yn credu bod pob plentyn yn haeddu profiadau o'r safon orau a dechrau da mewn bywyd
  • Yn frwdfrydig am ddatblygiad plant ac yn cynnig cymorth i blant a'u teuluoedd

Yr hyn y gallai Carfan Gofal Plant RCT ei gynnig i chi er mwyn ddechrau eich gyrfa ym maes gwarchod plant:

  • Cyfleoedd wedi'u hariannu i gwblhau cwrs gwarchod plant (cyn-gofrestru)
  • Cymorth a chyngor parhaus
  • Cymorth i gwblhau eich cofrestriad gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW)
  • Aelodaeth am ddim ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am flwyddyn gyda'r Gymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY)
  • Hyfforddiant wedi'i ariannu fel Cymorth Cyntaf Paediatreg, Diogelu a Diogelwch Bwyd
  • Pecynnau gan gynnwys yr holl adnoddau i gychwyn busnes (PACEY)
  • Grantiau cychwynnol bach ar gyfer adnoddau ar gyfer eich lleoliad Gwarchod Plant newydd

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol:

Byddai aelod o'n carfan yn hapus i drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gyda chi.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed wrthoch chi.

 

Tudalennau Perthnasol