Skip to main content

Meithrinfeydd dydd

Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal cofrestredig ar gyfer plant

Fel arfer, maen nhw'n agor yn gynnar yn y bore ac yn cau gyda'r hwyr, drwy gydol y flwyddyn. Efallai bydd rhai lleoliadau yn darparu gofal i blant cyn ac ar ôl yr ysgol. Mae meithrinfeydd dydd yn aml yn cynnig gofal yn ystod cyfnodau gwyliau.

Mae modd iddyn nhw gael eu cynnal gan y Cyngor, yn breifat neu drwy fudiad gwirfoddol neu elusennol.

Rhaid i feithrinfeydd dydd:

  • gael eu cofrestru a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru
  • cael tystysgrif gofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru
  • cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • cael y cymwysterau cymorth cyntaf a thystysgrifau hylendid bwyd priodol (os caiff bwyd ei ddarparu ar y safle)
  • rhaid i bolisïau a gweithdrefnau pob meithrinfa ddydd fod ar gael i rieni/cynhalwyr eu darllen os ydyn nhw'n gofyn eu gweld.

Dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am ddewis gofal plant gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Oriau Dydd (NDNA) neu'r Mudiad Meithrin 

Meithrinfeydd dydd yn eich ardal chi.

Chwiliwch am feithrinfeydd dydd yn eich ardal chi drwy wefan DEWIS