Bydd system genedlaethol ddigidol newydd ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru yn disodli'r systemau gwahanol y mae Awdurdodau Lleol yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y bydd pob Awdurdod Lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio'r un gwasanaeth. Mae'r system wrthi'n cael ei pharatoi a bydd hi'n mynd yn fyw ym mis Ionawr 2023.
Byddwch yn barod ar gyfer gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru - YouTube
Beth mae hyn yn ei olygu i ddarparwyr gofal plant?
Os ydych chi'n ddarparwr gofal plant sy'n darparu oriau Cynnig Gofal Plant ar hyn o bryd neu sy'n dymuno darparu oriau Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023, bydd angen i chi gofrestru ar-lein gyda gwasanaeth cenedlaethol digidol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru.
Sut i gofrestru?
Mae'n bwysig bod pob darparwr gofal plant sy'n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd. Y rheswm dros hyn yw y bydd rhieni plant sy'n gymwys o fis Ionawr 2023 yn gwneud cais trwy'r gwasanaeth cenedlaethol digidol felly bydd taliadau am oriau'r Cynnig Gofal Plant sydd wedi'u darparu ar gyfer y plant hynny yn cael eu gwneud trwy'r gwasanaeth newydd.
Dylai darparwyr yn Rhondda Cynon Taf wneud cais yma
Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant i gael Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
Rydym yn cynnig sesiynau galw heibio wythnosol i ddarparwyr a rhieni. Mae'r amserlen i'w gweld yma:
Cyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill 2021-2022 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
Hyfforddiant
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o achlysuron hyfforddi ar gyfer darparwyr.
Sut i gofrestru'ch lleoliad ac ymuno â lleoliad sy’n bodoli yn barod
Cliciwch yma am y recordiad
Sut i gadarnhau cytundebau gyda rhieni
Cliciwch ym am y recordiad
Sut i hawlio taliadau
Cynnig Gofal Plant Cymru: hawliadau a thaflenni amser
Bydd recordiadau o'r achlysuron hyfforddi ar gael yma ar ôl iddyn nhw gael eu cynnal.
Sut bydd modd i rieni wneud cais?
Bydd modd i rieni wneud cais trwy'r system newydd o Tachwedd. Dim ond rhieni plant fydd yn gymwys o 1 Ionawr 2023 ddylai wneud cais trwy'r system newydd. Bydd angen i rieni plant sy'n gymwys cyn y dyddiad yma wneud cais trwy ein porth presennol, yma.
Cymorth i wella'ch sgiliau digidol
Cyn i wasanaeth cenedlaethol digidol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru gael ei lansio, bydd Cymunedau Digidol Cymru yn darparu sesiynau hyfforddiant digidol sylfaenol am ddim ar gyfer pob darparwr gofal plant yng Nghymru.
Cofrestrwch ar gyfer sesiynau yma: https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/sgiliau-digidol-hanfodol-ar-gyfer-darparwyr-gofal-plant/.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am y system ddigidol newydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch garfan Cynnig Gofal Plant RhCT ar DarparwyrCynnigGofalPlant@rctcbc.gov.uk.