Os ydych chi'n dymuno derbyn gofal plant wedi'i ariannu trwy Gynnig Gofal Plant Cymru o fis Ionawr 2023, bydd angen i chi gyflwyno cais trwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Dyma wasanaeth dwyieithog ar-lein y mae modd ei gyrchu ar eich gliniadur, ffôn symudol neu lechen.
Rhaid defnyddio cyfrif Porth y Llywodraeth i gyrchu'r gwasanaeth. Mae modd i chi ddefnyddio rhif eich cyfrif Porth y Llywodraeth presennol, neu mae modd creu cyfrif newydd (cliciwch ar y ddolen isod). Bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth gyda'ch cais. Mae gwybodaeth bellach am y dystiolaeth sydd ei hangen ar gael yma.
Os ydych chi'n manteisio ar y cynnig yn barod, does dim angen i chi wneud unrhyw beth gan y byddwch chi'n parhau i fod ar y system bresennol hyd nes y bydd y cyfnod rydych chi'n gymwys yn dod i ben. Serch hynny, os byddwch chi'n dymuno derbyn cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer plentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen i chi wneud cais ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol.
Cliciwch yma i wneud cais ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol.