Sut mae modd i mi fanteisio ar ofal plant wedi'i ariannu?
Bydd y Cynnig yn dechrau o'r tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed tan y mis Medi sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bedair oed; pan fydd e'n dechrau yn y dosbarth derbyn.
Mae modd i rieni fanteisio ar y Cynnig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod yma, cyn belled â'u bod nhw'n gymwys i wneud hynny. Dylai fod modd i rieni fanteisio ar y Cynnig ar unrhyw adeg yn ystod y tymor hwnnw, cyn belled â bod y plentyn yn gymwys ar ddechrau'r tymor hwnnw, neu'n gynharach. Mae hyn yn cynnwys rhieni sy'n symud i GBSRhCT, neu sy'n cael swydd newydd.
Nodwch – byddwch chi dim ond yn gymwys o'r dyddiad wedi'i nodi ar y llythyr sy'n cadarnhau'ch cais byddwch chi'i dderbyn o Garfan Cynnig Gofal Plant unwaith bod eich cais yn cael ei brosesu.
Oes modd defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?
Oes, mae hawl gyda chi ddefnyddio hyd at DDAU ddarparwr gofal cofrestredig bob dydd yn ogystal â lleoliad Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen ar unrhyw ddiwrnod.
Gaf i gronni fy oriau?
Na chewch. Yn ystod y tymor, bydd rhieni yn cael uchafswm o 30 awr yr wythnos o addysg Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen ar y cyd â gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol. Gall rhieni ddewis faint o'r gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol maen nhw am ei ddefnyddio. Byddwch chi'n colli unrhyw oriau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ystod yr wythnos.
Ar gyfer wythnosau gwyliau'r ysgol, gall rhieni ddefnyddio hyd at uchafswm o 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu. Byddwch chi'n colli unrhyw oriau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ystod wythnos wyliau.
Sut bydd y Cynnig yn gweithio tu allan i dymor yr ysgol?
Bydd y Cynnig Gofal Plant yn cynnwys hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae addysg Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen ar gael am 39 wythnos y flwyddyn, felly bydd modd i rieni cymwys dderbyn 30 awr o ofal plant yn ystod y 9 wythnos sy'n weddill. Mae hyn yn gadael 4 wythnos y flwyddyn heb unrhyw ddarpariaeth wedi'i hariannu.
Mae plant cymwys yn cronni 3 wythnos o ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol bob tymor o ddyddiad cadarnhau eu bod yn gymwys. Bydd modd i rieni ddewis pryd i ddefnyddio'r ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol. Serch hynny, cyfrifoldeb y rhiant yw dewis y darparwr sy'n bodloni'i anghenion. Caiff wythnosau gwyliau’r ysgol eu defnyddio mewn blociau wythnos o hyd. Byddwch chi'n colli unrhyw oriau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ystod wythnos wyliau.
Gweithdrefn Cyflwyno Apêl
Os caiff eich cais am y Cynnig Gofal Plant ei wrthod, ac rydych chi'n anhgytuno â'r penderfyniad yma, mae hawl gyda chi i ofyn am adolygiad. Cliciwch y ddolen yma i ddarllen yr hyn sydd sydd angen i chi ei wneud, ac erbyn pryd.