Beth yw'r Cynnig Gofal Plant i Gymru?
Mae'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu cyfuniad o hyd at 30 awr yr wythnos o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen a gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol i rieni sy'n gweithio. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y Cynnig yn datblygu ar addysg Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen sydd eisoes ar gael i blant yn ystod tymor yr ysgol, a bydd yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am 9 wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.
Faint o oriau o ofal plant ydw i'n gymwys i'w hawlio?
Mae'r Cynnig ar gyfer uchafswm o 30 awr o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen a gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol. Mae RhCT yn cynnig 15 awr o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen i blant o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Felly, bydd gan rieni cymwys 15 awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu yn ystod y tymor.
Does dim rhaid i rieni weithredu'r hawl am addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen er mwyn derbyn y gofal plant sy'n rhan o'r Cynnig. Serch hynny, bydd yr hyn mae hawl gyda nhw i'w dderbyn yn cynnwys yr oriau yma, p'un a ydyn nhw'n penderfynu eu defnyddio ai peidio.
Os yw ysgol eich plentyn yn cynnig addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen llawn amser trwy'r Cynnig Gofal Plant, bydd y ddarpariaeth yma'n cael ei chynnwys yn yr oriau gofal rydych chi'n eu derbyn yn ystod tymor yr ysgol. Bydd hawl gyda chi dderbyn 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu yn ystod y 9 wythnos o wyliau'r ysgol.
Nodwch – Mae plant sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn gymwys i gael lle addysg llawn amser o'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae hyn yn golygu, o'r adeg honno, fydd dim modd i blant sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf fanteisio ar ofal plant a ariennir gan y Cynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr ysgol. Bydd modd iddyn nhw fanteisio ar ofal plant wedi'i ariannu yn ystod y gwyliau hyd at ddiwedd gwyliau'r haf yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae'r polisi yma'n berthnasol hyd yn oed os dyw rhieni ddim yn dymuno manteisio ar addysg feithrin neu os yw’r plentyn yn mynychu ysgol mewn awdurdod lleol gwahanol ac y bydd yn parhau i dderbyn addysg rhan amser yn ystod y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed.
Mae'r elfen addysg o'r cynnig yma'n amodol ar reolau arferol Derbyn Disgyblion RhCT. Rhaid i rieni wneud cais ar gyfer lle i'w plentyn gael addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen erbyn y dyddiadau sydd wedi'u nodi ar dudalen Derbyn Disgyblion RhCT. Dyma gais ar wahân i'r un ar gyfer yr elfen gofal plant wedi'i ariannu sy'n rhan o'r Cynnig Gofal Plant.
Yn ogystal â lleoliadau sy'n ysgolion, mae'n bosib bydd modd i blant gael addysg drwy Ddarparwr Addysg Cofrestredig (REP). Mae'r rhain yn lleoliadau gofal plant sydd wedi'u cofrestru ag AGC ac yn cael eu harolygu gan Estyn mewn perthynas â darparu addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen. Nodwch – dim ond ar gyfer plant sy'n 3 oed rhwng mis Medi a mis Mawrth bob blwyddyn y byddwn yn ariannu lleoedd addysg drwy REP. Bydd plant sy'n 3 oed rhwng mis Ebrill a mis Awst bob blwyddyn yn dechrau mewn lleoliad ysgol y mis Medi canlynol.
Os bydd ysgol yn cynnig dechrau graddol i’r tymor, nid yw’n bosibl hawlio oriau gofal plant a ariennir gan y Cynnig Gofal Plant o ddechrau’r tymor pan nad yw eich plentyn yn yr ysgol.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais am le addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen, ewch i www.rctcbc.gov.uk/derbyndisgyblion.
Pryd bydd fy mhlentyn yn gymwys?
Mae'r siart isod yn esbonio pryd mae modd cyflwyno cais am y Cynnig Gofal Plan
Nodwch: Yn
Os cafodd eich plentyn ei eni
|
Mae'n gymwys o
|
Mae'n gymwys hyd at
|
Cyfnod cyflwyno cais yn dechrau
|
1 Medi 2019 - 31 Rhagfyr 2019
|
9 Ionawr 2022 (dechrau tymor y gwanwyn)
|
31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024
|
Agor
|
1 Ionawr 2020 – 31 Mawrth 2020
|
17 Ebrill 2023 (dechrau tymor yr haf)
|
31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024
|
Agor
|
1 Ebrill 2020 – 31 Awst 2020
|
4 Medi 2023 (dechrau tymor yr hydref)
|
31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024
|
Agor
|
1 Medi 2020 – 31 Rhagfyr 2020
|
8 Ionawr 2024 (dechrau tymor y gwanwyn)
|
31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025
|
6 Tachwedd 2023
(mae modd i chi gyflwyno’ch cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau'r tymor, ond fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais hyd nes y dyddiad sydd wedi'i nodi uchod)
|
1 Ionawr 2021 – 31 Mawrth 2021
|
8 Ebrill 2024 (dechrau tymor yr haf)
|
31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025
|
12 Chwefror 2024
(mae modd i chi gyflwyno’ch cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau'r tymor, ond fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais hyd nes y dyddiad sydd wedi'i nodi uchod)
|
1 Ebrill 2021 - 31 Awst 2021
|
2 Medi 2023 (dechrau tymor yr hydref)
|
31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025
|
24 Mehefin 2024 (mae modd i chi gyflwyno’ch cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau'r tymor, ond fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais hyd nes y dyddiad sydd wedi'i nodi uchod)
|
RhCT, mae'r dyddiadau derbyn yma yn aros yr un fath bob blwyddyn a dydn nhw ddim yn newid yn ôl dyddiadau'r Pasg.
Os byddwch chi'n cyflwyno cais cyn y dyddiadau yma, caiff eich cais ei wrthod yn awtomatig, a bydd raid i chi gyflwyno cais arall ar ôl y dyddiad 'cychwyn' ar gyfer cyflwyno ceisiadau.