Mae modd i chi gyflwyno cais am y 15 awr yr wythnos o gyllid gofal plant os:
- Ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf
- Ydy’ch plentyn rhwng 3 a 4 oed. Mae'r cyllid gofal plant yn dod i ben unwaith y bydd eich plentyn yn dechrau ysgol yn llawn amser. Fel arfer bydd hyn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.
- Mae'r ddau riant yn gweithio mewn teulu dau riant (mae rhai budd-daliadau hefyd yn gymwys; gweler isod)
- Mae'r unig riant yn gweithio mewn teulu un rhiant
- Rydych chi'n ennill o leiaf:
- £ 142.56 yr wythnos os ydych chi'n 23 oed neu'n hŷn
- £ 133.76 yr wythnos os ydych chi'n 21-22 oed
- £ 104.96 yr wythnos os ydych chi'n 18-20 oed(mae'r cyfraddau yma'n seiliedig ar 16 awr yr wythnos ar y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2021-Mawrth 2022 a bydd yn newid yn flynyddol)
- Rydych chi'n ennill llai na £100,000 y flwyddyn (gros) fesul rhiant.
Eithriadau cymhwysedd:
Os yw un rhiant yn bodloni'r meini prawf ac mae'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn yn gymwys i dderbyn y Cynnig:
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans i Gynhalwyr (gofalwyr)
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Budd-dal Analluogrwydd Hir Dymor
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credydau Yswiriant Gwladol o ran analluogrwydd i weithio neu allu cyfyngedig i weithio
Fydd teuluoedd lle mae'r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod ddim yn cael manteisio ar y Cynnig.
Cynhalwyr sy'n ffrindiau neu'n deulu ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn, sydd ddim yn fab/ferch iddyn nhw, oherwydd:
- Dyw rhieni'r plentyn ddim yn gallu gofalu am y plentyn, neu does gan y plentyn ddim rhieni
- Fel arall, mae'n debygol byddai'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn
Mae modd i gynhalwyr sy'n berthnasau elwa ar y Cynnig ar yr amod eu bod nhw'n bodloni'r meini prawf - byddan nhw'n gweithio, yn byw yn RhCT ac yn rhoi gofal i blentyn sy o'r oedran cywir i dderbyn y Cynnig.