Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn galluogi rhieni i weithio. Bydd hynny'n ategu ymgyrch Llywodraeth Cymru i hybu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfuniad o 30 awr yr wythnos o addysg mewn Meithrinfa'r Cyfnod Sylfaen a gofal plant wedi'i ariannu ychwanegol i rieni sy'n gweithio. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Rhagor o wybodaeth I rieni - a ydych chi'n gymwys?
Rhagor o wybodaeth i ddarparwyr gofal plant, a sut i gymryd rhan.
Gweld rhestr lawn o ddarparwyr
CoI gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Rhondda Cynon Taf yn prosesu data personol mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant, darllenwch ein
polisi preifatrwydd.
Coronafeirws (COVID-19)
Mae swyddogion y garfan Gofal Plant yn gweithio o bell ar hyn o bryd a dydyn nhw ddim yn y swyddfa. Mae modd i ni ateb eich ymholiadau trwy e-bost neu dros y ffôn. Ein nod yw ateb pob ymholiad cyn gynted â phosibl, fodd bynnag, byddwch effro i'r ffaith y gall fod ychydig oedi cyn ymateb.
Manylion Cyswllt:
Denise Humphries: 07825 675667
Carfan Datblygu Gofal Plant Cyffredinol
E-bost: carfangofalplant@rctcbc.gov.uk
Sian Wood: 07393 759217
Carfan Cynnig Gofal Plant
E-bost: CynnigGofalPlantCymruRhCT@rctcbc.gov.uk.
Rhys Picton: 07385 086785
Cath Herbert: 07385 086138
O ble caf i ragor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant?
Ewch i dudalen we Llywodraeth Cymru lle bydd modd i chi gael rhagor o wybodaeth am y cynnig gofal plant a'r atebion i rai cwestiynau syml: www.gov.wales/talkchildcare a dewis 'Cymraeg' ar frig y dudalen.
Fe gewch chi gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg er mwyn rhoi sylwadau:
E-bost: TalkChildCare@wales.gsi.gov.uk
Post:
Carfan Cynnig Gofal Plant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays - 2il Lawr y Gogledd
Caerdydd, CF10 3NQ
Cyfryngau Cymdeithasol: Chwiliwch am yr hashnod i ymuno yn y sgwrs ar-lein.
#TrafodGofalPlant
Ffyrdd eraill o roi'ch barn:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yw'r ddolen gyswllt gyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol i deuluoedd a chynhalwyr.Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ym mhob awdurdod lleol. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig cymorth a chyngor am ddim sy'n ymwneud â materion teuluol gan gynnwys gofal plant, help gyda chostau gofal plant, a gwasanaethau hamdden www.rctcbc.gov.uk/fis a dewis 'Cymraeg' ar frig y dudalen.