Mae hosbisau'n darparu gofal ar gyfer pobl (gan gynnwys plant) sydd â salwch terfynol, ac yn rhoi cymorth i'w cynhalwyr yn yr hosbis ac yn y cartref.
Eich meddyg neu'ch ymgynghorydd yn yr ysbyty sy'n trefnu'r cam cyntaf. Mae rhai cartrefi nyrsio preifat neu gartrefi henoed preifat hefyd yn arbenigo mewn gofal i bobl sydd â salwch terfynol. Gall eich meddyg neu'ch ymgynghorydd yn yr ysbyty roi gwybodaeth i chi am hosbisau lleol ac unedau arbenigol i gleifion mewnol.
Mae gwasanaeth gwybodaeth cenedlaethol am ofal hosbis ar gael i helpu cleifion, teuluoedd a chynhalwyr i fanteisio ar y gwasanaethau mwyaf priodol.
Hospice UK, 34–44 Britannia Street, Llundain WC1X 9JG
Ffôn: 020 7520 8200 / Gwefan: www.hospiceuk.org
Mae'r hosbis i blant yng Nghymru, Tŷ Hafan, yn darparu gwasanaeth i blant sydd â salwch sy'n byrhau bywyd neu'n bygwth bywyd, a'u teuluoedd.
Tŷ Hafan
Ffordd Hayes
Sili
Penarth
CF64 5XX
Ffôn: 029 2053 2200