Skip to main content

Seibiannau Byr ar Gyfer Plant Anabl

Mae'r Datganiad Gwasanaethau Seibiannau Byr ar gyfer teuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) sydd â phlentyn anabl 0-18 oed.

Mae'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau seibiannau byr i deuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, ac yn datgan yn syml pwy sy'n cael manteisio ar wasanaethau seibiannau byr, a sut mae gwneud hynny. Cafodd y datganiad ei ddatblygu mewn partneriaeth â Rhwydwaith Rhieni a Chynhalwyr RhCT, a phartneriaid mewn addysg ac iechyd er mwyn sicrhau bod teuluoedd plant anabl yn gwybod:

  • Beth yw seibiant byr
  • Bod gan bob plentyn anabl yr hawl i ddefnyddio gwasanaethau prif ffrwd a
  • Sut mae Rhondda Cynon Taf yn penderfynu pwy sy'n gymwys i dderbyn seibiannau byr mwy arbenigol a phwy sydd ddim yn gymwys. 

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Datganiad Gwasanaethau Seibiannau Byr Rhondda Cynon Taf neu'r Gwasanaeth i Blant Anabl, cysylltwch â’r:  

Carfan Plant Anabl 

Tŷ Trevithick 
Abercynon, 
Aberpennar
CF45 4UQ

Ffôn: 01443 425006