Skip to main content

Addysg y blynyddoedd cynnar

Mae gan bob Awdurdod Lleol ddyletswydd i sicrhau bod pob plentyn, o ddechrau'r tymor newydd ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed, yn gallu manteisio ar leoliad addysgol rhan-amser (o leiaf 10 awr yr wythnos), naill ai mewn ysgol neu mewn canolfan gofrestredig sydd ddim yn cael ei chynnal gan yr Awdurdod.

Maeplant yn Rhondda Cynon Taf yn gymwys i gael lle addysg cyn-feithrin rhan-amser (15 awr) o ddechrau'r tymor newydd ar ôl ei ben-blwydd yn 3 oed. 

Mae rhai ysgolion yn cynnig lle cyn-feithrin, ac mae modd i rieni wneud cais amdano ar-lein.  Mae'r lleoedd cyn-feithrin yn cael eu darparu ar sail y nifer sydd ar gael, a does dim ffordd o sicrhau lle mewn unrhyw ysgol. 

Os nad yw ysgolion yn gallu cwrdd â'r galw, mae'n bosib y bydd modd trefnu lleoliad rhan-amser wedi'i gyllido gyda Darparwr Addysg Cofrestredig.  Dyw'r lleoliadau gofal plant Arolyglaeth Goral Cymru (AGC) yma ddim yn cael eu cynnal gan yr Awdurdod Lleol ond maen nhw'n cael eu harolygu gan Estyn er mwyn darparu addysg cyn-feithrin.  Mae'r lleoedd yma'n cael eu darparu ar sail y nifer sydd ar gael, a does dim ffordd o sicrhau lle.  Bydd lle gyda Darparwr Addysg Cofrestredig ond yn cael ei gyllido os nad oes le ar gael mewn ysgol.

Mae pob plentyn yn gymwys i gael lle addysg o ddechrau'r tymor newydd ar ôl ei ben-blwydd yn 3 oed fel y ganlyn:

  • Mae modd i blentyn, y mae ei ben-blwydd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, fanteisio ar y ddarpariaeth yma o ddechrau tymor yr Hydref (Medi) yn dilyn ei ben-blwydd yn 3 oed
  • Mae modd i blentyn, y mae ei ben-blwydd rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, fanteisio ar y ddarpariaeth yma o ddechrau tymor y Gwanwyn (Ionawr) yn dilyn ei ben-blwydd yn 3 oed
  • Mae modd i blentyn, y mae ei ben-blwydd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, fanteisio ar y ddarpariaeth yma o ddechrau tymor yr Haf (Ebrill) yn dilyn ei ben-blwydd yn 3 oed

Nodwch byddwn ni ond yn ariannu lleoedd addysg â Darparwyr Addysg Cofrestredig ar gyfer plant sy'n 3 oed rhwng Medi a Mawrth bob blwyddyn hyd at fis Medi'r flwyddyn ganlynol (felly does dim modd ariannu lleoliadau gyda Darparwr Addysg Cofrestredig yn ystod tymor yr Hydref).

Mae modd gwneud cais ar gyfer lle mewn ysgol a lle gyda Darparwr Addysg Cofrestredig ar-lein drwy wefan Derbyn Disgyblion schooladmissions.rhondda-cynon-taff.gov.uk.  Mae modd gwneud cais am le addysg ar gyfer mis Ionawr o fis Medi bob blwyddyn. Mae modd gwneud cais am le addysg ar gyfer mis Ebrill o fis Ionawr bob blwyddyn. 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion yr holl ysgolion a Darparwyr Addysg Cofrestredig yn Llyfryn Dechrau'r Ysgol, neu ar-lein: Cyflwyno cais am le mewn ysgol

Methu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano? Angen rhagor o wybodaeth?

Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 0800 180 4151 (rhadffon o linell dir) neu 0300 111 4151 (rhadffon o ffôn symudol)