Skip to main content
 
Yn ystod eich cyfnod mewn gofal, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel rhiant cyfrifol a byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi mor iach â phosibl. 

I wneud hyn, dylai'ch iechyd gael ei asesu gan feddyg neu nyrs yn fuan ar ôl i chi ddod i mewn i'r system gofal. Bydd angen i'r meddyg neu'r nyrs eich gweld chi unwaith bob blwyddyn tra byddwch chi yn derbyn gofal. (Dwywaith bob blwyddyn os yn iau na 5 oed). 

Bydd eich meddyg neu nyrs wedi derbyn hyfforddiant penodol yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal. Byddan nhw yn gallu eich helpu gydag unrhyw faterion neu bryderon iechyd all fod gennych. Bydd e/hi hefyd yn gallu trafod y pethau gallwch chi ei wneud i wella'ch iechyd a'ch lles. 

Beth sy'n digwydd pan fydda'i yn mynd i weld y Meddyg neu'r Nyrs?

Unig ddiben yr asesiad iechyd yw gweld sut yr ydych chi yn teimlo.  Bydd rhan o'r asesiad yn ymwneud â'ch iechyd corfforol (pethau sy'n digwydd i'ch corff) a bydd rhan arall yn ymwneud â'ch iechyd emosiynol (os oes gennych unrhyw broblemau neu bryderon). Mae angen i'r doctor neu nyrs wirio eich bod chi yn tyfu'n iawn. Os ydych yn dymuno, gallant wirio eich taldra a'ch pwysau.  Byddan nhw yn trafod unrhyw gyflyrau iechyd gall fod gennych a sicrhau eich bod yn derbyn y driniaeth/meddygaeth gywir.  Mae'r asesiad iechyd yn gyfle da i drafod sut i fod yn fwy iach, a sut i deimlo'n well.  Bydd gennych gyfle i weld y meddyg neu nyrs ar eich pen eich hun os ydych yn dymuno.

 Beth am fy nannedd?

Mae gofal deintyddol da yn rhan bwysig iawn o'ch iechyd yn gyffredinol. Pan fyddwch yn dechrau derbyn gofal, bydd angen i chi fynd at y deintydd er mwyn gwirio cyflwr eich dannedd.  Bydd angen i chi ymweld â'r deintydd bob chwe mis er mwyn sicrhau bod eich dannedd a'ch deintgig (gums) yn iach. Os ydych chi'n nerfus am fynd at y deintydd, rhowch wybod i'r person sy'n gofalu amdanoch chi, eich gweithiwr cymdeithasol neu'ch nyrs a bydd e/hi yn gallu'ch helpu chi.

Beth am fy llygaid?

Bydd angen i chi fynd i weld yr optegydd o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd yr optegydd yn gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn gyda'ch llygaid a'ch sbectol, os oes sbectol gennych chi.

Beth yw Cynllun Gofal Iechyd?

Mae rhaid i bob plentyn sy'n derbyn gofal yng Nghymru gael Cynllun Gofal Iechyd, sy'n rhan o'ch Cynllun Gofal cyffredinol. Mae'n nodi'ch anghenion iechyd unigol a sut byddwch chi, neu'r bobl yn eich bywyd, yn diwallu'r anghenion hynny.

Beth yw Cynllun Gofal Iechyd?

Mae rhaid i bob plentyn sy'n derbyn gofal yng Nghymru gael Cynllun Gofal Iechyd, sy'n rhan o'ch Cynllun Gofal cyffredinol. Mae'n nodi'ch anghenion iechyd unigol a sut byddwch chi, neu'r bobl yn eich bywyd, yn diwallu'r anghenion hynny. 

 Fydd pobl eraill yn gweld fy nodiadau meddygol?

Ar ôl yr asesiad iechyd, bydd copi o'r Cynllun Gofal Iechyd, fel arfer, yn cael ei anfon at eich meddyg, eich gweithiwr cymdeithasol a'r nyrs ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb sy'n gysylltiedig â'ch gofal yn ymwybodol o'ch anghenion iechyd a sut i'ch helpu chi. Dan rai amgylchiadau, bydd rhywfaint o'r wybodaeth am eich iechyd, neu'r wybodaeth i gyd, yn cael ei rhannu â'r person sy'n rhoi gofal i chi.   Bydd croeso i chi hefyd gael copi o'r wybodaeth. Bydd eich iechyd yn cael ei drafod yn eich cyfarfodydd adolygu, felly, os fyddwch chi ddim yn fodlon i rywun penodol gael darllen eich Cynllun Gofal Iechyd, dywedwch wrth rywun cyn eich cyfarfod adolygu neu yn ystod y cyfarfod. Fydd trafod materion iechyd personol, neu faterion iechyd sy'n codi cywilydd arnoch chi, ddim yn cael eu caniatáu yn ystod adolygiad, oni bai'ch bod chi eisiau eu trafod nhw.

Fydda i'n cael mynd i apwyntiadau meddygol heb rywun?

Byddwch. Os ydych chi'n ddigon aeddfed, ac mae'ch meddyg teulu o'r farn eich bod chi'n deall yn llawn yr hyn sydd ei angen, mae hawl gennych chi i gael cyngor a gofal iechyd cyfrinachol.