Croeso i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae'n cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio am ddim i BOB rhiant, cynhaliwr (gofalwr) a gwarcheidwad yn Rhondda Cynon Taf.
Gall y garfan gyfeillgar a gwybodus ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys opsiynau gofal plant, dewis y math cywir o ofal plant , achlysuron a gweithgareddau a chynlluniau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol.
Os ydych chi'n rhiant newydd ac yn chwilio am ddosbarthiadau babanod neu os oes gyda chi blant hŷn sy'n chwilio am weithgareddau allgyrsiol, mae modd i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd helpu.
Mae'r Gwasanaeth hefyd yn ffynhonnell wybodaeth wych ar gyfer y rhai sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn gofal plant neu weithio gyda phlant a phobl ifainc.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Rhadffon: 0800 180 4151
Rhadffon ar ffón symudol: 0300 111 4151
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.