Mae’r gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth wedi bod yn weithredol ers mis Ionawr 2018 ac yn darparu trefniadau’r Garfan o amgylch y Teulu (TAF) yn RhCT. Dyma ddull cydnabyddedig y Cyngor o gyflawni'r agenda atal ac ymyrryd yn fuan ar draws RhCT. Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhoi cymorth cyflym, effeithiol, cyson a phwrpasol i deuluoedd.
Mae'r Gwasanaeth wedi'i gynllunio i nodi'r teuluoedd cywir sydd angen cymorth ar yr adeg gywir, i gynnig asesiadau cyflym sy'n canolbwyntio ar wydnwch, i gael gwared ar rwystrau ymarferol i newid cadarnhaol, ac i gynnig ymyriadau amserol ac effeithiol. Bydd y Gwasanaeth yn darparu gwell cymorth i deuluoedd mewn amseroedd ymateb cyflymach; asesiad diagnostig byrrach a chryfach; pwynt cyswllt unigol dibynadwy a chymorth ymarferol rhagweithiol i gysylltu ag ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu lefelau gwydnwch.
Sut mae'n gweithio?
Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhan o'r Gwasanaethau Plant, ac mae'n cynnwys y pedair carfan ganlynol:
Mae'r Garfan Asesu, Broceriaeth, ac Adolygu yn cynnig ymateb amserol i atgyfeiriadau drwy gynnal asesiadau cymesur sy'n canolbwyntio ar lefelau gwydnwch y teulu. Caiff yr wybodaeth a gaiff ei chasglu ei defnyddio yn sail i Gynllun Teulu gyda'r nod o geisio adeiladu lefel gwydnwch y teulu a thynnu i ffwrdd unrhyw rwystrau sy'n cyfyngu ar newid cadarnhaol. Bydd y cynllun yma'n cynnwys ymyraethau tymor byr effeithiol er mwyn cynorthwyo teuluoedd i wneud newidiadau ymarferol a chynaliadwy.
Mae'r Garfan Teuluoedd a Mwy yn gweithio gyda theuluoedd o bob rhan o Rondda Cynon Taf sydd wedi'u nodi'n rhai sydd angen ymyrraeth ddwys yn dilyn yr asesiad cychwynnol, hynny yw, pan mae angen cymorth ar gyfer anghenion cymhleth neu rai sydd wedi ymwreiddio. Mae'n bosibl efallai fod achosion y teuluoedd yma wedi cael eu hisraddio o ymyrraeth gan y Gwasanaethau Plant, neu'u bod wedi cael eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, ond heb gyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth gan y Gwasanaethau Plant. Mae'r Garfan Teuluoedd a Mwy yn cynnwys Gweithwyr Ymyrraeth a fydd yn cynnig pecyn dwys tymor byr o gymorth i deuluoedd er mwyn adeiladu ymgysylltiad cadarnhaol a gostwng lefelau risg.
Mae'r Garfan Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol yn gweithio gyda theuluoedd ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf lle mae anghenion eu plant/plentyn o ran amhariadau niwro-ddatblygiadol, gwybyddol, neu gorfforol islaw'r trothwy statudol ar gyfer ymyrraeth, a bod y teulu angen cymorth arbenigol er mwyn deall a rheoli anghenion eu plentyn a/neu fynd i'r afael ag effaith hyn ar y teulu ehangach. Gweithwyr Ymyrraeth yw aelodau'r Garfan Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol. Byddan nhw'n cynnig pecynnau penodol, pwrpasol, a dwys tymor byr o gymorth arbenigol i deuluoedd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau ar gyfer gwella ansawdd bywyd y teulu.
Mae'r Garfan Teuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd o bob rhan o Rondda Cynon Taf sydd wedi'u nodi'n rhai sydd angen ymyrraeth gynnar yn dilyn yr asesiad, hynny yw, pan mae angen cymorth aml-asiantaeth cydlynus. Mae'r Garfan Teuluoedd yn cynnig man cyswllt canolog ac eiriolydd i deuluoedd; yn rhoi cymorth uniongyrchol; ac yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod y cynllun ymyrraeth yn cael ei gyflawni yn effeithiol.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, ffoniwch 01443 281435 neu e-bostio rfs@rctcbc.gov.uk.
Y mecanwaith Cyfeirio Newydd ar gyfer y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth:
Mae modd atgyfeirio at y Gwasanaeth drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol:
- Mae modd i deuluoedd hunan-gyfeirio at y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth drwy ffonio 01443 425006
Bydd pob atgyfeiriad a gaiff ei atgyfeirio i'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn cael ei frysbennu ar sail risg/anghenion. Bydd atgtyfeiriadau sy'n cael eu derbyn gan y Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sydd ddim yn cyrraedd trothwy Gwasanaethau i Blant ond sy'n cael eu hystyried yn briodol ar gyfer ymyrraeth yn cael eu dyrannu i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Bydd negeseuon e-bost yn cael eu darllen yn ystod oriau swyddfa yn unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30 a 17:00.