Skip to main content

Rhoi Gwybod am Achos Amddiffyn Plant

Os ydych chi'n amau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei niweidio, neu mewn perygl o gael ei miweidio, mae dyletswydd arnoch chi i roi gwybod amdano ar unwaith.  Bydd pob galwad sy'n ymwneud â phryderon yn cael ei chymryd o ddifrif.  Od bydd yn dod i'r amlwg bod plentyn yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o niwed, bydd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'r teulu i sicrhau bod y plentyn yn cael ei ddiogelu.

Rhoi gwybod am bryderon


Pe hoffech chi roi gwybod i ni am bryder ynglŷn â phlentyn, ffoniwch:

  • Canolfan Gyswllt RhCT ar 01443 425006. Byddwch chi'n cael eich trosglwyddo i rywun      sy'n gallu rhoi cyngor a'r wybodaeth berthnasol. Mae'r gwasanaeth ar gael Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30am - 5pm
  • E-bost: IAATeam@rctcbc.gov.uk

I roi gwybod am bryder ynglŷn â phlentyn y tu allan i oriau arferol y swyddfa, ar benwythnosau neu wyliau banc, ffoniwch:

  • Y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665  

MANYLION CYSWLLT MEWN ARGYFWNG: Os ydych chi'n amau bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu. Os ydych chi eisiau rhoi gwybod am ddigwyddiad lle nad oes angen ymateb ar frys, neu os oes problem neu gwestiwn cyffredinol gyda chi, ffoniwch 101, sef rhif di-argyfwng 24 awr yr Heddlu.

Pa wybodaeth bydd gofyn imi ei rhoi?

Bydd gofyn ichi esbonio pam mae pryder gyda chi ynglŷn â'r plentyn gan roi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl. Y fwyaf o wybodaeth rydych chi'n gallu'i darparu, hawsaf fydd hi i staff y Gwasanaethau Cymdeithasol olrhain unrhyw gofnodion presennol am y plentyn.  Enw llawn y plentyn, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yw'r wybodaeth fwyaf defnyddiol.  Os nad ydych chi'n gwybod pob un o'r rhain, mae'n bosibl y bydd gwybodaeth arall fel enwau'r rhieni neu frodyr a chwiorydd neu'r ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu fod o gymorth. 

Mae modd i chi roi'r wybodaeth yn ddienw os ydych chi'n dymuno, er mae'n bosibl y bydd yn ddefnyddiol cael eich manylion rhag ofn y bydd angen egluro'r wybodaeth yn ystod yr ymholiadau.  Fel aelod o'r cyhoedd, bydd eich hunaniaeth yn cael ei chadw'n gyfrinachol gan y bobl sy'n ymchwilio i'ch adroddiad

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rhaid cynnal ymholiadau i ddod o hyd i'r ffeithiau ac i benderfynu a yw plentyn yn cael ei niweidio'n gorfforol neu'n emosiynol ai peidio, ac a oes angen cymryd camau i ddiogelu'r plentyn. Yn amodol ar natur yr wybodaeth a gafodd ei derbyn, mae'n bosibl y bydd yn angenrheidiol cynnwys asiantaethau eraill, fel yr Heddlu.

Bydd staff sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol yn siarad â'r teulu am eu pryderon ac yn gwrando ar eu barn ynghylch y mater.  Byddan nhw hefyd yn ymweld â'r plentyn/plant dan sylw ac unrhyw bobl eraill sydd â gwybodaeth berthnasol

Beth os ydw i'n ansicr a ddylwn ni roi gwybod am bryder neu beidio?

Weithiau, dydy ymholiadau ddim yn dod o hyd i unrhyw rheswm arwyddocaol dros bryderu am y plentyn a does dim angen cymryd camau pellach. Serch hynny, mae'n well trafod y pryderon sydd gyda chi yn hytrach nag anwybyddu'r arwyddion a pheryglu'r plentyn.

Rhagor o wybodaeth am Ddiogelu Plant

Cofiwch – mae diogelu pobl yn fater i bawb!

Tudalennau Perthnasol