Skip to main content

Cost y Cynllun Cymorth Costau Byw

Ar 15 Chwefror 2022, yn rhan o Gyllid Atodol Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd pecyn o fesurau i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw sydd ohoni. Mae'r pecyn yn cynnwys £152 miliwn i dalu costau byw i gartrefi cymwys (y prif gynllun) a £25 miliwn yn gymorth disgresiynol at ddibenion sy'n gysylltiedig â chostau byw.  

DIWEDDARWYD: 3 MAI 2022

Mae'r Cyngor eisoes wedi prosesu'r Taliad Costau Byw ar gyfer dros 64,000 o gartrefi yn awtomatig (mae hyn yn cyfateb i gyllid gwerth cyfanswm o £9miliwn). Mae'r Cyngor hefyd wedi dechrau cysylltu â'r cartrefi hynny y bydd angen iddyn nhw gofrestru i dderbyn taliad.

Derbyniwyd dros 1,500 o gofrestriadau dros y penwythnos a bydd y rhain yn cael eu hadolygu yr wythnos hon er mwyn sicrhau bod modd prosesu'r taliad cyn gynted â phosibl.

Yn ogystal â hyn, bydd llythyr yn cael ei anfon at 30,000 o gartrefi eraill yr wythnos hon yn eu gwahodd nhw i gofrestru ar gyfer y taliad gan ddefnyddio cod unigryw sydd wedi'i nodi ar y llythyr.

Ni fydd unrhyw geisiadau y mae'r Cyngor wedi'u derbyn i dalu Treth y Cyngor drwy ddull Debyd Uniongyrchol ers canol mis Ebrill yn cael eu defnyddio i wneud Taliad Costau Byw awtomatig. Bydd y rhain yn derbyn llythyr yn eu gwahodd i gofrestru gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.

Os ydych wedi rhoi gwybod i'r Cyngor eich bod wedi symud tŷ yn ddiweddar a'ch bod yn byw mewn eiddo cymwys ar 15 Chwefror 2022 ond heb dderbyn taliad na llythyr, bydd y Cyngor yn cysylltu â chi maes o law i sicrhau eich bod chi'n derbyn y taliad.

Mae'r manylion isod yn nodi sut y bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys amserlen o ddyddiadau pwysig:

Gallwch hefyd weld cwestiynau cyffredin am y cynllun.

Prif Gynllun Cymorth Costau Byw

Manylion Cymhwyso

Swm y Taliad

Talu Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol

Ddim yn talu Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol

Os ydych chi'n byw mewn eiddo sydd ym mand A i D a/neu rydych chi'n derbyn Cymorth Gostyngiad Treth y Cyngor ers 15 Chwefror 2022

£150

Erbyn hyn, dylech chi fod wedi derbyn llythyr ynghylch y cynllun a thaliad i'ch cyfrif banc;

  • Byddwch chi'n derbyn llythyr yn eich gwahodd chi i gofrestru er mwyn derbyn y taliad;
  • Fydd dim modd i chi gofrestru cyn i chi dderbyn eich llythyr;        
  • Byddwch chi'n derbyn eich llythyr o fewn y 7-10 diwrnod nesaf

  • Unwaith i chi gofrestru, bydd eich taliad yn cyrraedd o fewn 28 diwrnod;
Y Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw

Manylion Cymhwyso

Swm y Taliad

Talu Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol

Ddim yn talu Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol

Os ydych chi'n byw mewn eiddo sydd ym mand E neu F ers 15 Chwefror 2022

£100

Erbyn hyn, dylech chi fod wedi derbyn llythyr ynghylch y cynllun a thaliad i'ch cyfrif banc;
  • Byddwch chi'n derbyn llythyr yn eich gwahodd chi i gofrestru er mwyn derbyn y taliad;
  • Fydd dim modd i chi gofrestru cyn i chi dderbyn eich llythyr;        
  • Byddwch chi'n derbyn eich llythyr o fewn y 7-10 diwrnod nesaf

  • Unwaith i chi gofrestru, bydd eich taliad yn cyrraedd o fewn 28 diwrnod;
Y Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw

Manylion Cymhwyso

Swm y Taliad

Manylion Allweddol

Eiddo sydd â phobl yn byw ynddo ond sydd ddim yn talu Treth y Cyngor

£150

  • Byddwch chi'n derbyn llythyr yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y taliad o fewn y 7 - 10 diwrnod nesaf.

  • Unwaith i chi gofrestru, bydd eich taliad yn cyrraedd o fewn 28 diwrnod;

Tai Amlfeddiannaeth (‘HMOs’)

£100

  • Bydd Tai Amlfeddiannaeth yn derbyn llythyr ar wahân erbyn diwedd mis Ebrill

Taliad teulu £50

£50

  • Os oes gyda chi un plentyn neu fwy yn yr ysgol ar ddechrau'r tymor ar ôl gwyliau’r Pasg byddwch chi'n derbyn llythyr yn gofyn i chi gofrestru am daliad gwerth £50.
  • Os yw eich plentyn yn derbyn "addysg ddewisol yn y cartref” byddwch chi hefyd yn derbyn taliad.

  • Dylech chi dderbyn y llythyr erbyn canol mis Mai a chaiff taliad ei wneud o fewn 28 diwrnod ar ôl i chi gofrestru;
  • Sylwch mai taliad £50 i bob teulu yw hi, ddim £50 i bob plentyn.

Cwestiynau Cyffredin

C.  Os oes modd i'r Cyngor nodi pa gartrefi sy'n gymwys ac mae ganddo fanylion banc cyfredol ar eu cyfer nhw, a oes modd derbyn taliad y Cynllun Cymorth Costau Byw heb orfod cadarnhau manylion

A.  Oes, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn fodlon â'i ofynion.

C.  Rydw i newydd dderbyn fy mil ar gyfer treth y Cyngor, ond does dim manylion i ddangos bod y taliad wedi'i wneud. A ddylai'r £150 fod wedi ei gymryd oddi ar fy mil treth y Cyngor? 

A.  Na.  Dydy taliadau y Cynllun Cymorth Costau Byw ddim yn daliadau treth y Cyngor a fyddan nhw ddim yn cael eu defnyddio i leihau bil treth y Cyngor ar gyfer unrhyw breswylydd. Caiff yr arian ei dalu i bob cartref unigol i'w ddefnyddio fel maen nhw eisiau.

C.  Bydd grwpiau o gartrefi incwm isel sydd ddim yn gorfod talu Treth y Cyngor. Pam bod y rhain ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun?

A.  Bwriad y cynllun yw rhoi cymorth i'r rheiny y mae modd eu nodi’n hawdd trwy ddata Treth y Cyngor. Mae Cynllun Disgresiynol hefyd ar waith i gynorthwyo cartrefi sydd ddim yn gorfod talu Treth y Cyngor.

Mae modd i gartrefi hefyd wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol os ydyn nhw'n wynebu caledi ariannol. 

C.  A fydd y £150 yn effeithio ar fudd-daliadau profion modd?

A.  Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau bod taliadau a wnaed yn rhan o Ddarpariaeth Lles Lleol ddim yn cael eu hystyried yn yr asesiad Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, felly fydd y rhain ddim yn cael eu heffeithio. Fydd dim newidiadau i'r rheiny sy'n hawlio Credyd Uniongyrchol oherwydd eu bod nhw'n derbyn y taliad yma.  

C.  Mae rhywun sydd â'i brif gartref yn Lloegr, wedi gwneud cais ar gyfer y cynllun am ei ail gartref yng Nghymru.  Fe/Hi sy'n talu Treth y Cyngor a fe/hi sy'n gyfrifol am dalu biliau tanwydd yr eiddo, ydy e/hi'n gymwys am y taliad?

A.  Nac ydy. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth i deuluoedd sy'n byw yn eu prif gartref yn unig.  

C.  Mae rhywun/rhywrai yn berchen ar ddau eiddo yng Nghymru, ydy ef/hi/nhw'n gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun?

A.  Dim ond ar gyfer prif gartref y person(au) (os ydy un o'r tai yma'n brif gartref iddo ef/iddi hi/iddyn nhw). 

C.  Mae Treth y Cyngor ar gyfer eiddo ym mand E yn gostwng i bris eiddo ym mand D os ydy'r person(au) sy'n byw yno'n derbyn Gostyngiad Band Anabledd. Ydy'r person(au) yna'n gymwys?

A.  Ydy/Ydyn. Mae'r newid yn y band yn cael ei ddefnyddio i bennu cymhwysedd ar gyfer y cynllun yma. 

C.   Oes dyddiad targed ar gyfer gwneud taliadau?

A.  Nac oes. Caiff Cynghorau eu hannog i wneud taliadau mewn da bryd a chyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl yn dilyn penderfyniad llwyddiannus.

C.  A oes modd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu taliad yn rhan o'r Cynllun cymorth Costau Byw? 

A.  Nac oes. Does dim hawl gan unrhyw un i apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â chymeradwyo taliad, gan y bydd gwrthwynebiad yn codi yn sgil y ffaith bod y cartref ddim yn diwallu amodau'r cynllun. Dylai Cynghorau ailystyried achosion lle mae modd i wybodaeth newydd newid y canlyniad, e.e. pan fydd eiddo'n cael ei ailystyried a'i roi ar restr eiddo sy'n gorfod talu Treth y Cyngor.

C. Oes hawl gyda fi i dderbyn y taliad costau byw os nad oes hawl gen i i unrhyw arian cyhoeddus.

A. Oes. Mae'r taliad costau byw (sy'n rhan o Gynllun Ad-dalu Costau Ynni 2022) wedi’i eithrio rhag cael ei ystyried yn arian cyhoeddus o dan baragraff 6.2(i) o’r Rheolau Mewnfudo. Mae hyn yn golygu ei fod ar gael i bobl nad oes ganddyn nhw unrhyw hawl i arian cyhoeddus, ac eithrio’r rhai nad oes ganddynt ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU ac sy’n cael eu cynnwys yn rhan o un o’r carfanau a restrir o dan Atodlen 3, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002.

Gweld sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol