Skip to main content

Taliad i deuluoedd o £75

Bydd y cynllun yma'n gwneud taliad o £75 i bob aelwyd cymwys sydd ag un plentyn neu ragor sydd o oedran ysgol gorfodol.

Os oes gyda’r Cyngor fanylion banc a gafodd eu darparu yn rhan o'r cynllun costau byw cyntaf (taliad teulu o £50), bydd yn ceisio gwneud y taliad yma'n awtomatig i’r cyfrifon banc hynny yn ystod mis Hydref 2022.

Os does dim manylion banc gyda'r Cyngor ar gyfer teuluoedd cymwys, yna bydd y Cyngor yn ysgrifennu atyn nhw i'w gwahodd i gofrestru ar-lein am daliad gan ddefnyddio cod allwedd unigryw.

Meini prawf y taliad i deuluoedd ag un plentyn neu ragor o oedran ysgol gorfodol

  • Byddwn ni'n pennu'r rhai sydd o oedran ysgol gorfodol yn seiliedig ar ddechrau'r tymor ysgol a ddechreuodd ym mis Medi 2022
  • Bydd plentyn yn cyrraedd yr oedran ysgol gorfodol y tymor ar ôl iddo/iddi gael ei b/phen-blwydd yn bum mlwydd oed
  • Yn unol â hyn, os oes gyda theulu un neu ragor o blant wedi'u geni rhwng 1 Medi 2006 (h.y. 16 oed ar 31 Awst 2023) a 31 Awst 2017 (h.y. 5 oed ar 31 Awst 2022) ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, yna byddan nhw'n gymwys i gael taliad i deuluoedd
  • Bydd teuluoedd sydd wedi dewis addysgu'u plentyn/plant gartref yn gymwys, yn ogystal â theuluoedd plentyn/plant sy'n mynd i'r ysgol y tu allan i Rondda Cynon Taf ond sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol
  • Sylwch mai taliad £75 i bob teulu yw hi, ddim £75 i bob plentyn

GWYBODAETH BWYSIG

  • Fydd y taliad ddim yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau (e.e. Credyd Cynhwysol)
  • Os yw teulu wedi derbyn taliad teulu o £50 o'r blaen a bod plentyn/plant o oedran ysgol gorfodol gyda nhw o hyd, yna byddan nhw'n derbyn taliad o £75 yn awtomatig (ar yr amod bod y manylion cyfrif banc a gafodd eu rhoi i'r Cyngor o'r blaen yn ddilys o hyd)
  • Bydd teuluoedd sydd wedi dod yn gymwys oherwydd bod gyda nhw blentyn o oedran ysgol gorfodol o fis Medi 2022 yn derbyn llythyr yn nodi sut i wneud cais