Bydd y Cyngor, gan gynnwys y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid AR GAU o 4pm ddydd Mercher 23 Rhagfyr tan 4 Ionawr 2021. Mae'r dudalen yma'n cynnwys manylion penodol y Cyngor ar gyfer cyfnod y Nadolig. Mae'r manylion yma'n berthnasol i BOB prif wasanaeth yn y Cyngor, ac eithrio'r gwasanaethau y tu allan i oriau arferol a'r gwasanaethau cyfyngedig hanfodol.
Mae manylion y gwasanaethau sydd ar gael, ynghyd â'u horiau agor, wedi'u nodi isod:
Bydd y Llinell Gymorth Covid-19 ar agor trwy gydol yr ŵyl, heblaw am wyliau'r banc (Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, 28 Rhagfyr a 1 Ionawr 2021).
Bydd y gwasanaeth Lifeline (24/7) yn aros ar agor drwy gydol y gwyliau yn ôl yr arfer.
Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch i'r tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'u horiau agor dros y Nadolig.
Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan fydd y gwasanaeth(au) wedi ailafael yn y dref arferol.
Nodwch: Fydd sianeli Cyfryngau Cymdeithasol y Cyngor ddim yn cael eu monitro dros y cyfnod yma (24 Rhagfyr - 4 Ionawr) a dylech ddefnyddio'r rhif ffôn y tu allan i oriau ar gyfer unrhyw ymholiadau brys sydd angen eu datrys cyn i'r Cyngor ailagor.
Diweddariadau am y Coronafeirws (COVID-19) dros yr ŵyl:
Bydd y Cyngor yn parhau i gyhoeddi unrhyw ddiweddariadau brys yn ystod cyfnod yma os bydd angen gwneud hynny, a bydd modd dod o hyd i'r rhain ar y tudalennau canlynol a thrwy ein dilyn ni ar Twitter neu hoffi ein tudalen Facebook:
Y Coronafeirws/COVID-19 - yr wybodaeth a chyngor diweddaraf
Manylion am gyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 Llywodraeth Cymru
Biniau ac ailgylchu
Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du yn newid yn ystod wythnosau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
- Bydd casgliadau sydd i fod ar ddydd Gwener 25 Rhagfyr yn cael eu casglu ddydd Llun 28 Rhagfyr a bydd casgliadau dydd Llun i ddydd Mercher yr wythnos honno'n neidio ymlaen diwrnod, felly bydd dydd Llun yn symud i ddydd Mawrth, dydd Mawrth i ddydd Mercher, a dydd Mercher i ddydd Iau. Yna bydd casgliadau dydd Iau (31 Rhagfyr) a dydd Gwener (1 Ionawr) yn hepgor dau ddiwrnod. Bydd casgliad dydd Iau yn symud i ddydd Sadwrn, a dydd Gwener i ddydd Sul.
- Bydd y trefniadau arferol ar gyfer casgliadau yn ailddechrau ddydd Llun 4 Ionawr 2021.
- Er mwyn helpu trigolion i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl dros y Nadolig (28 Rhagfyr - 4 Ionawr), fydd DIM TERFYN ar faint o wastraff ailgylchu bydd y Cyngor yn ei gasglu. Bydd y Cyngor hefyd yn dyblu faint o wastraff bagiau du mae'n ei gasglu - 4 bag du neu 1 bin x 120 litr a 2 fag du ychwanegol neu 1 bin x 240 litr ac 1 bag du ychwanegol.
Bydd Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned AR AGOR yn ôl yr arfer dros yr ŵyl, ond byddan nhw ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, 27 Rhagfyr a Dydd Calan. Bydd y canolfannau'n cau am 3pm ar Noswyl Nadolig a Nos Galan. Mae rheolau llym yn parhau i fod ar waith ar gyfer y rhai sy'n ymweld â'r safleoedd - rheolau yma.
Nodwch - bydd cyfleusterau'r Sied yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant a Threherbert ar gau tra bydd cyfyngiadau COVID-19 Lefel Rhybudd 4 mewn grym.
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig rhwng 4 Ionawr a 15 Ionawr 2021. Bellach, mae modd i drigolion drefnu amser i ni gasglu'u coeden yn ystod y cyfnod yma.
Ar ôl y cyfnod yma, bydd eich coeden yn cael ei chasglu yn rhan o'r gwasanaeth gwastraff gwyrdd arferol.
Mae gwybodaeth fwy manwl am hwn ar gael ar dudalennau ailgylchu'r Nadolig ar y wefan yma
Gofal Cymdeithasol
Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:
- Carfan Gwasanaethau Gofal i Oedolion: 01443 425003
- Carfan Gwasanaethau i Blant: 01443 425006
- Argyfyngau gofal cymdeithasol y tu allan i oriau arferol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc (h.y. Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Dydd Calan): 01443 743665.
Digartrefedd
Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.
Mae gwasanaeth brys y tu allan i oriau arferol y swyddfa hefyd ar gael drwy gydol y Pasg drwy ffonio 01443 425011.
Cofrestrydd
Bydd y Swyddfa Gofrestru, Prif Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd ar agor fel a ganlyn dros gyfnod y Nadolig:
Dydd Mercher 23 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Iau 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Gwener 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Sadwrn 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)
|
AR GAU
|
Dydd Sul 27 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Llun 28 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Mawrth 29 Rhagfyr (apwyntiadau yn unig)
|
AR AGOR
|
Dydd Mercher 30 Rhagfyr (apwyntiadau yn unig)
|
AR AGOR
|
Dydd Iau 31 Rhagfyr(apwyntiadau yn unig)
|
AR AGOR
|
Dydd Gwener 1 Ionawr 2021 (Dydd Calan)
|
AR GAU
|
Dydd Sadwrn 2 Ionawr 2021
|
AR GAU
|
Dydd Sul 3 Ionawr 2021
|
AR GAU
|
Dydd Llun 4 Ionawr 2021
|
GWASANAETHAU ARFEROL O HYN YMLAEN
|
Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau
Bydd y brif swyddfa (Glyntaf) yn dilyn y drefn yma dros gyfnod y Nadolig:
Dydd Mercher 23 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Iau 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Gwener 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Sadwrn 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)
|
AR GAU
|
Dydd Sul 27 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Llun 28 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Mawrth 29 Rhagfyr
|
AGORED (Dim Claddedigaethau Llawn)
|
Dydd Mercher 30 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Iau 31 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Gwener 1 Ionawr 2021 (Dydd Calan)
|
AR GAU
|
Dydd Sadwrn 2 Ionawr 2021
|
AR GAU
|
Dydd Sul 3 Ionawr 2021
|
AR GAU
|
Dydd Llun 4 Ionawr 2021
|
GWASANAETHAU ARFEROL O HYN YMLAEN (Dim Claddedigaethau Llawn)
|
Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tir y Mynwentydd dros gyfnod y Pasg.
Nodwch: Mae rhaid i drigolion sy'n ymweld â'r safleoedd hyn wneud hynny yn unol â gofynion cadw pellter cymdeithasol bob amser.
Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.
Os bydd raid cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.
Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed pan fydd ffyrdd i gerbydau wedi'u cau. Er hynny, bydden ni'n argymell yn gryf i bobl fod yn ofalus pan fyddan nhw'n ymweld â'n mynwentydd pan fydd y tywydd yn arw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi cwympo ac anafiadau.
Canolfannau Hamdden
Yn unol â'r cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 a ddaeth i rym am hanner nos ar 19 Rhagfyr, mae pob Canolfan Hamdden ar gau. Ewch i'r wefan Hamdden neu dilynwch @RCTLeisureService ar Facebook neu @rctleisure ar Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf
Mannau Chwarae a Pharciau
O dan gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, mae mannau chwarae a pharciau yn parhau i fod AR AGOR a dim ond pobl sy'n byw yn yr un cartref ddylai fynd iddyn nhw. Yn benodol, rhaid i chi beidio â threfnu i gwrdd ag aelwydydd eraill mewn mannau chwarae a ddylech chi ddim cymdeithasu yno. Rydyn ni hefyd yn eich annog chi i olchi dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo yn aml, peidio â bwyta nac yfed mewn parciau, sychu offer gyda'ch cadachau eich hun, ac osgoi ymgasglu mewn criw mawr o bobl mewn parciau ac ar offer trwy gymryd tro neu ddefnyddio parciau ar adegau llai prysur. SYLWCH: Bydd parciau sglefrio a chyrtiau chwaraeon yn cau o hanner nos ar 19 Rhagfyr (mae hyn yn cynnwys ardaloedd gemau aml-ddefnydd / cyrtiau pêl-fasged ac ati).
Cyfleusterau Cyhoeddus
Bydd POB cyfleuster cyhoeddus AR GAU, ac eithrio Stryd Morgan, Pontypridd, a Stryd y Dug, Aberdâr. Mae toiledau ym Mharc Aberdâr, Parc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Coffa Ynysangharad hefyd yn parhau i fod ar agor. – Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Llyfrgelloedd
Bydd Llyfrgell Pentre'r Eglwys ar gau o ddydd Llun, 21 Rhagfyr a bydd pob llyfrgell arall ar gau o Noswyl Nadolig. Bydd llyfrgelloedd yn ailagor ddydd Llun, 4 Ionawr ar gyfer gwasanaeth ‘Archebu a Chasglu'. Bydd y gwasanaeth llyfrgell gartref ar gau o Noswyl Nadolig a bydd yn ailagor ddydd Llun, 4 Ionawr.
Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd
Gwasanaethau IBobUn
O ganlyniad i Gyfyngiadau COVID-19 Lefel 4, bydd gwasanaeth IBobUn ar gau o ddydd Llun, 21 Rhagfyr. Ar hyn o bryd, does dim dyddiad wedi'i bennu ar gyfer ailagor y gwasanaeth. Bydd y diweddaraf am y gwasanaeth ar gael yma: a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Canolfannau Cymuned
O dan gyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 COVID-19, mae pob canolfan cymuned AR GAU i aelodau'r cyhoedd (heblaw am rai eithriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau hanfodol)
Cau Ysgolion a Chludiant Ysgol
Ffyrdd ar Gau
Dyma'r tudalennau ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau -
Costau parcio - meysydd parcio'r Cyngor
Bydd costau parcio ym mhob maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor (o 10am bob dydd) yn Aberdâr a Phontypridd yn cael eu hatal o 1 Ionawr, 2021, nes bydd rhybudd pellach. Mae hyn yn ymestyn y trefniadau parcio am ddim sydd wedi bod ar waith ers 24 Hydref. Nodwch fod modd parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor ym mhob tref arall yn barhaol.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Cewch chi'ch cynghori i gysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod tywydd garw.
Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng
Er gwybodaeth i bob preswylydd, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros gyfnod y Pasg drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.