Cyn gwyliau'r banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.
I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook
Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2024
Bydd y Cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Alwadau i Gwsmeriaid AR GAU o ddydd Mawrth 24 Rhagfyr tan 9am ddydd Iau 2 Ionawr 2025 – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a rhai gwasanaethau hanfodol.
Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch i'r tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'u horiau agor dros gyfnod y Nadolig.
Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor am 9am ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Gwastraff ac Ailgylchu
MAE’N BOSIBL y bydd eich casgliadau Ailgylchu a Gwastraff YN NEWID dros y Nadolig. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol/newydd. Mae hyn yn berthnasol i BOB casgliad ailgylchu, gan gynnwys cewynnau, bwyd a bagiau ailgylchu CLIR.
Mae modd dod o hyd i fanylion LLAWN ar y tudalennau yma
Bydd y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio o ddydd Mercher 25 Rhagfyr. Bydd Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn ailddechrau ddydd Llun, 13 Ionawr 2025. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu yn y gymuned leol drwy gydol cyfnod y Nadolig.
Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 23 Rhagfyr
- Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer ddydd Llun, 23 Rhagfyr a dydd Mawrth, 24 Rhagfyr.
Bydd casgliadau wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mercher, 25 Rhagfyr yn cael eu casglu ddydd Gwener, 27 Rhagfyr a byddan nhw'n digwydd 2 ddiwrnod yn ddiweddarach drwy'r wythnos – dydd Gwener yn lle dydd Mercher, dydd Sadwrn yn lle dydd Iau, dydd Sul yn lle dydd Gwener.
Dylai gwastraff bagiau du a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 30 Rhagfyr 2024
- Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer ddydd Llun, 30 Rhagfyr a dydd Mawrth, 31 Rhagfyr.
Bydd casgliadau yn digwydd diwrnod yn ddiweddarach o Ddydd Calan (dydd Mercher) – felly bydd casgliadau ar ddydd Mercher yn digwydd ar ddydd Iau, ac ati. Mae hyn yn berthnasol i’ch HOLL gasgliadau sydd wedi’u hamserlennu – ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du – o ddydd Mercher 1 Ionawr (wythnos y Flwyddyn Newydd) – Fydd DIM CASGLIADAU ar Ddydd Calan.
Dylech chi roi’r holl wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
Os nad yw'ch gwastraff / eitemau ailgylchu wedi cael eu casglu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar ymyl y ffordd. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.
Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan, gan ailagor ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig rhwng 30 Rhagfyr a 31 Ionawr 2025. Bellach, mae modd i drigolion drefnu amser i ni gasglu'u coeden yn ystod y cyfnod yma.
Mae gwybodaeth fanylach ar gael ar dudalennau ailgylchu'r Nadolig ar y wefan yma.
Ewch i'r tudalennu ailgylchu am wybodaeth gyffredinol am ailgylchu, gan gynnwys dod o hyd i'ch diwrnod casglu a chanllawiau clir am yr hyn mae modd ei ailgylchu.
Gofal Cymdeithasol
Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:
- Materion Gofal Cymdeithasol Brys tu allan i oriau'r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a chyfnod y Nadolig: 01443 743665.
I'r rheiny sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros benwythnos Gŵyl y Banc, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y maen nhw wedi'u darparu.
Prydau yn y Gymuned (Pryd-ar-glud)
Bydd y garfan Prydau yn y Gymuned yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth dros gyfnod y Nadolig ac mae'r fwydlen wedi'i ddarparu er mwyn archebu ymlaen llaw lle bo angen.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.
Digartrefedd
Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.
Nodwch, bydd y Gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gau o 4pm ar 23 Rhagfyr 2024 a bydd y swyddfa yn ailagor am 9am ddydd Iau, 2 Ionawr 2025.
Bydd gwasanaeth brys y tu allan i oriau ar gael ar 01443 425011, fodd bynnag, dim ond argyfyngau, pan hysbysir nad oes gan rywun lety ar gael iddyn nhw, fydd yn cael eu trin trwy'r gwasanaeth tu allan i oriau yma.
Bydd yr holl ymholiadau tai a digartrefedd eraill yn cael sylw pan fydd y swyddfa yn ailagor ar 2 Ionawr 2025.
Y Swyddfa Gofrestru
Fydd y swyddfa gyffredinol DDIM ar agor dros gyfnod y Nadolig – 23 Rhagfyr hyd at 2Ionawr 2025, i fynd i'r afael â cheisiadau/materion sy'n ymwneud â thystysgrifau.
Os yw'r swyddfa ar gau ac mae gyda chi ymholiad brys, ffoniwch ein Gwasanaeth Ôl-oriau ar 01443 425001.
Bydd y Swyddfa Gofrestru, Prif Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd ar agor fel a ganlyn dros gyfnod y Nadolig:
Dydd Llun 23 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)
|
AR AGOR
|
Dydd Mercher 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Iau 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)
|
AR GAU
|
Dydd Gwener 27 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Sul 29 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Llun 30 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr (Nos Galan)
|
AR AGOR
|
Dydd Mercher 1 Ionawr 2025
|
AR GAU
|
Dydd Iau 2 Ionawr 2025
|
GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU
|
Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau
Bydd y brif swyddfa (Glyn-taf) yn dilyn y drefn yma dros gyfnod y Nadolig:
Dydd Llun 23 Rhagfyr
|
AR AGOR – gwasanaethau claddu llawn tan 2pm yn unig
|
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)
|
AR AGOR – claddedigaeth olaf am 1pm
|
Dydd Mercher 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Iau 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)
|
AR GAU
|
Dydd Gwener 27 Rhagfyr
|
AR AGOR - 10am – 2pm
|
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Sul 29 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Llun 30 Rhagfyr
|
AR AGOR - 10am – 2pm
|
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr (Nos Galan)
|
AR AGOR - 10am – 2pm
|
Dydd Mercher 1 Ionawr 2025
|
AR GAU
|
Dydd Iau 2 Ionawr 2025
|
GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU
|
Dydd Gwener 3 Ionawr 2025
|
GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU
|
Bydd gwasanaethau claddu llawn ar gael ar 23 Rhagfyr tan 2pm – Rhaid derbyn yr holl waith papur perthnasol erbyn 3pm ddydd Gwener 13 Rhagfyr ar yr hwyraf.
Fydd dim modd cynnal gwasanaethau claddu llawn nac ar gyfer gweddillion amlosgedig ar ddyfnder llawn yn ein mynwentydd o ddydd Gwener 27 Rhagfyr hyd at ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Dylid cyflwyno dogfennau wedi'u cwblhau ar gyfer gwasanaethau claddu wedi'u hamserlennu ar gyfer 2 Ionawr erbyn 3pm ar 21 Rhagfyr 2024 ar yr hwyraf.
Bydd ein gwasanaethau yn ailddechrau yn llawn ar 2 Ionawr 2025.
Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tiroedd mynwentydd dros gyfnod y Nadolig.
Bydd tiroedd mynwentydd ar agor bob dydd rhwng 9am a 4pm, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.
Os bydd raid cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.
Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed pan fydd ffyrdd i gerbydau wedi'u cau. Er hynny, bydden ni'n argymell yn gryf i bobl fod yn ofalus pan fyddan nhw'n ymweld â'n mynwentydd pan fydd y tywydd yn arw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi cwympo ac anafiadau.
Toiledau Cyhoeddus
Bydd yr holl doiledau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf yn gweithredu'r oriau canlynol dros yr ŵyl:
Dydd Llun 23 Rhagfyr
|
AR AGOR tan 4pm
|
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Mercher 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)
|
AR GAU
|
Dydd Iau 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)
|
AR GAU
|
Dydd Gwener 27 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr
|
AR AGOR
|
Dydd Sul 29 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Llun 30 Rhagfyr
|
AR AGOR tan 4pm
|
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr (Nos Galan)
|
AR GAU
|
Dydd Mercher 1 Ionawr 2025
|
AR GAU
|
Dydd Iau 2 Ionawr 2025
|
GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU
|
Mae modd bwrw golwg ar fanylion llawn a lleoliadau'r cyfleusterau yma – Toiledau Cyhoeddus
Canolfannau Hamdden
Ewch i'r wefan Hamdden neu ddilyn @RCTLeisureService ar Facebook i gael manylion am oriau agor eich canolfan leol. Nadolig - Oriau Agor
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
- Mae Teithiau Dan Ddaear Taith yr Aur Du ar gau ar hyn o bryd a byddan nhw'n ailddechrau ar 14 Ionawr 2025.
- Caffè Bracchi – Noswyl Nadolig – Ar agor tan 3pm
- Bydd Caffè Bracchi ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a bydd yn ailagor ar 4 Ionawr 2025.
Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty
Ewch i wefan Lido Ponty neu dilynwch @LidoPonty ar X (Twitter_ a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.
Llyfrgelloedd
Bydd llyfrgelloedd ar gau o ddydd Mawrth 24 Rhagfyr tan ddydd Iau 2 Ionawr 2024.
Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd
Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg
Bydd Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Iau 2 Ionawr 2025 a bydd gweithgareddau yn dechrau'r wythnos ganlynol. Ewch i www.gartholwg.org am ragor o wybodaeth.
Gwasanaeth Cyngor IBobUn y Cyngor
Bydd swyddfeydd IBobUn yn cau ddydd Mawrth 24 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Parc Gwledig Cwm Dâr
Dyma fydd oriau gweithredu Parc Gwledig Cwm Dâr dros gyfnod y Nadolig:
Bydd y parc ar agor bob dydd ond bydd y Ganolfan Ymwelwyr ar gau rhwng 24 Rhagfyr a 2 Ionawr.
Theatrau
Ewch i wefan Theatrau Rhondda Cynon Taf a dilyn @TheatrYColieswmAberdar @ParkandDare ar Facebook am fanylion.
Cau Ysgolion a Chludiant Ysgol
Mae pob ysgol AR GAU o ddydd Gwener 20 Rhagfyr (heblaw am ddiwrnodau HMS wedi'u trefnu) dros wyliau'r Nadolig.
- Bydd ysgolion yn ailagor ddydd Llun 6 Ionawr (heblaw am ar ddiwrnodau HMS wedi'u trefnu ar ôl gwyliau'r Nadolig).
Dilynwch y dolenni isod i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy wedi'u cau, amserlenni tymhorau'r ysgolion a chludiant ysgol.
Ffyrdd ar gau
Dyma'r tudalennau ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau –
Meysydd Parcio
Mae modd parcio ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd AM DDIM ar ôl 10am bob dydd ym mis Rhagfyr yn rhan o fenter parcio dros yr ŵyl y Cyngor.
Cofiwch fod meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr a chewch chi ddim parcio am fwy na phedair awr yno. Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am bod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig.
Unwaith eto, fydd dim rhaid talu am barcio ym meysydd parcio'r Cyngor yn y ddwy dref ar ôl 10am bob dydd drwy fis Rhagfyr i gyd – o 1 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr. Bwriad y cynnig yw annog trigolion i wneud cymaint o’u siopa Nadolig yn lleol â phosibl, gan roi hwb i’n masnachwyr gwych yng nghanol y dref yr adeg yma o’r flwyddyn.
Nodwch fod y meysydd parcio hynny sydd ar glo y tu allan i oriau codi tâl arferol, e.e. maes parcio aml-lawr Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd, ar gau bob dydd Sul ac ar Wyliau Banc.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd ar gyfer pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno ar gyfer mis Rhagfyr 2024 – gan ddarparu teithio rhatach dros gyfnod yr ŵyl.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod tywydd garw.
Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng:
Er gwybodaeth i bob preswylydd, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, o fore gwyn tan nos, saith diwrnod yr wythnos.