O dan y canllawiau Profi, Olrhain, Diogelu, mae'n ofynnol i fusnesau sy'n peri risg uwch o ledaenu coronafeirws, e.e. tafarndai, bwytai, casinos, cyfleusterau hamdden, trinwyr gwallt, yn ôl y gyfraith (Rheoliad 12 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020), i gasglu manylion cyswllt gan eu cwsmeriaid. Mae hyn oherwydd y bydd staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio amser hirach yn yr adeilad yma nag mewn amgylchedd arall ac o bosibl yn dod i gysylltiad agos â phobl o'r tu allan i'w cartref agos.
O ganlyniad i'r arferion yma, mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Cwm Taf Morgannwg eisiau i bobl fod yn effro bod person sydd wedi cael prawf positif am Coronafeirws wedi bod yn bresennol yn y sefydliadau canlynol ar y dyddiadau yma neu rhwng y dyddiadau yma:
Os ydych chi wedi ymweld â'r adeilad uchod ac wedi llenwi'r cofnodion monitro ac olrhain yn llawn, dylai fod gan y garfan Profi, Olrhain, Diogelu eich manylion cyswllt a bydd yn cysylltu â chi i roi cyngor pellach os bydd angen.
Os ydych chi wedi ymweld ag unrhyw un o'r adeiladau a restrir uchod ac ar hyn o bryd yn dioddef symptomau (colli arogl neu flas, peswch newydd a pharhaus a thymheredd uchel), PEIDIWCH ag aros i'r garfan Profi, Olrhain, Diogelu gysylltu â chi ond, yn hytrach:
Os ydych chi wedi ymweld ag unrhyw un o'r adeiladau uchod a does gyda chi DDIM symptomau yna does DIM angen i chi drefnu prawf na hunanynysu, oni bai eich bod chi'n datblygu symptomau neu'n cael eich cyfarwyddo i wneud hynny gan y swyddogion perthnasol.
Yn rhan o'r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, dyma atgoffa trigolion hefyd os oes gyda nhw symptomau a'u bod yn cael canlyniad prawf positif, dylen nhw hunanynysu ac aros gartref, hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo'n iach.
Bwriwch olwg ar ganllawiau hunanynysu diweddaraf Llywodraeth Cymru
Bydd gwneud hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws i deulu, ffrindiau, cydweithwyr a’r gymuned ehangach. Gyda’n gilydd mae modd inni gadw RhCT a Chymru’n ddiogel.