Pan fydd y Cyngor yn cael gwybod am fater sy'n tynnu sylw at fusnes neu fangre sydd ddim yn glynu wrth Reoliadau COVID-19, mae ganddo ddyletswydd i weithredu a sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu.

.

Gweld manylion mangreoedd yn Rhondda Cynon Taf lle mae prawf positif o COVID-19 wedi'i nodi.

Pan fydd trigolion neu fusnesau'n methu â dilyn y rheolau a'r canllawiau sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru, mae'n bosibl y bydd eraill mewn mwy o berygl o ddal Covid-19. Mae pwerau newydd wedi cael eu rhoi i Awdurdodau Lleol a'r Heddlu i sicrhau ein bod ni’n diogelu Cymru a RhCT.

Rhoi gwybod am fusnesau sydd ddim yn dilyn rheolau COVID-19

Os ydych chi'n poeni bod busnes neu leoliad ddim yn dilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru, hoffen ni glywed gennych chi. 

Camau Gweithredu Gwirfoddol Iechyd Cyhoeddus ychwanegol ar gyfer Rhondda Cynon Taf

O ganlyniad i gynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 ar draws Rhondda Cynon Taf a’r bwrdeistrefi cyfagos, mae’r Cyngor yn annog trigolion i gymryd camau nawr yn gymorth i atal lledaenu'r feirws ymhellach.