Pan fydd trigolion neu fusnesau'n methu â dilyn y rheolau a'r canllawiau sydd wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru, mae'n bosibl y bydd eraill mewn mwy o berygl o ddal Covid-19. Er mwyn diogelu'r rhan fwyaf o bobl sy'n dilyn y mesurau sydd ar waith, mae pwerau newydd wedi cael eu rhoi i Awdurdodau Lleol a'r Heddlu i sicrhau ein bod ni'n diogelu Cymru a RhCT.
Gweld manylion o bwerau Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydyn ni'n ei hwynebu ac yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb i ni orfod cyflwyno cosbau.
Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?
Caiff y cyfyngiadau'u gorfodi gan swyddogion iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol a'r heddlu.
Beth mae modd i swyddogion gorfodi ei wneud?
Mae modd i'r swyddogion gorfodi gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig neu argymell i'r unigolyn gael ei erlyn yn Llys yr Ynadon. Yn ogystal â hyn, mae gan y swyddogion ystod eang o bwerau sy'n eu galluogi i gymryd camau ymarferol er mwyn symud grwpiau o bobl, gofyn i bobl ddychwelyd i'w cartrefi a chael mynediad i fangre.
Beth sy'n digwydd os yw'r fangre neu'r gweithle'n methu â chymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws?
Mae modd i swyddogion gorfodi'r Awdurdod Lleol gyflwyno hysbysiad gwella mangre. Mae'r hysbysiad yma'n gofyn bod y person sy'n gyfrifol am y fangre yn cymryd camau penodol, ac os nad yw'r mesurau hynny'n cael eu cymryd, mae'n bosibl y bydd swyddog yn cyflwyno "hysbysiad cau mangre" sy'n gofyn bod y fangre'n cau. Mae'n bosibl y bydd swyddog hefyd yn cyflwyno hysbysiad cau mangre heb gyflwyno hysbysiad gwella mangre, lle bo angen.
Felly, os nad yw pobl yn cydymffurfio, mae modd cau'r fangre.
Beth fydd swyddogion yr Heddlu'n ei wneud?
Bydd swyddogion yr Heddlu yng Nghymru yn ymgysylltu â phobl, esbonio'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud a'u hannog nhw i gydymffurfio. Mae ein swyddogion yr Heddlu wedi cael pwerau a byddan nhw'n eu defnyddio – bydd y cyfyngiadau yn cael eu gorfodi os na fydd pobl yn cydymffurfio.
Beth yw'r cosbau ariannol?
Mae'r cyfyngiadau Coronafeirws yn cynnwys darpariaeth i gyflwyno hysbysiad cosb benodedig ar gyfer y rhan fwyaf o achosion o dorri'r rheoliadau, sef dirwy o £60. Mae hyn yn cynyddu i £120 ar gyfer yr ail drosedd ac yn parhau i ddyblu am droseddau pellach, hyd at uchafswm o £1,920. Os bydd unigolyn yn cael ei erlyn, caiff llys roi dirwy o unrhyw swm (does dim cyfyngiad o ran faint).