Skip to main content

Canolfannau Cymuned a Chanolfannau Hamdden yn y Gymuned

Canolfannau Cymuned

Mae Canolfannau Cymuned yn gweithredu yn unol â Chyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.

Gwasanaethau Oriau Dydd

Mae darpariaeth gwasanaeth oriau dydd y Cyngor, gan gynnwys Learning Curves, Gwasanaethau i Bobl Hŷn gan gynnwys Canolfannau Oriau Dydd i Bobl Hŷn sydd â Dementia a'r Gwasanaeth Byw'n Annibynnol, yn gweithredu yn unol â Chyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwasanaethau'n newid yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru ac mae modd iddyn nhw gael eu heffeithio gan salwch staff ar fyr rybudd. Pan fydd problem, bydd cleientiaid yn cael eu rhybuddio cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.

Llety â chymorth

Mae gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu yn unol â Chyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n cymryd POB cam angenrheidiol i leihau'r risg o drosglwyddo’r haint i'r bobl sy'n byw mewn llety â chymorth. 

Gwasanaethau Seibiant ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu

Mae gwasanaethau gofal seibiant y Cyngor yn gweithredu'n unol â Chyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.

Nodwch: Os oes angen Cymorth Hanfodol yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion arnoch chi, ffoniwch 01443 425003 (Llun-Gwener 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 (y tu allan i'r oriau yma).

Canolfannau Cymuned

O dan gyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 COVID-19, mae pob canolfan cymuned AR GAU i aelodau'r cyhoedd (heblaw am rai eithriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau hanfodol).

Gwasanaethau Oriau Dydd

Mae'r Cyngor wedi adolygu darpariaeth HOLL wasanaethau oriau dydd, gan gynnwys lleoliadau Learning Curve i bobl ag anableddau dysgu, Canolfannau Oriau Dydd i Bobl Hŷn â Dementia a Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Bydd peth ddarpariaeth barhaus ar gael i nifer fach o bobl, ond bydd hyn ar gael i'r rheiny sydd fwyaf agored i niwed ac sydd heb gymorth arall yn unig. Rydyn ni wedi cysylltu â'r bobl yma a'u cynhalwyr.

Dylai holl bobl eraill sy'n derbyn gwasanaethau oriau dydd aros gartref gyda chymorth teulu a ffrindiau neu yn eu llety â chymorth. 

Llety â Chymorth

Mae gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu wrth gymryd yr HOLL gamau angenrheidiol i leihau'r risg o drosglwyddo i bobl sy'n byw mewn llety â chymorth. 

Mae cyfyngiadau bellach ar waith i ymwelwyr gadw pobl mor iach a diogel â phosibl. Roedd rhaid gwneud rhai newidiadau i sicrhau bod modd i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed dderbyn y cymorth angenrheidiol, eu bod wedi'u diogelu'n effeithiol a bod adnoddau staff yn cael eu rheoli'n effeithiol yn ystod y cyfnod yma. Rydyn ni wedi cysylltu â'r rheiny sydd wedi'u heffeithio. 

Gwasanaethau Seibiant i Bobl ag Anableddau Dysgu

Mae holl ofal seibiant wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol agos wedi'i adolygu ac rydyn ni wedi cysylltu â'r rheiny sydd wedi'u heffeithio.

Bydd seibiant yn parhau i fod yn ddarpariaeth frys fydd yn blaenoriaeth unigolion risg uchel a chefnogi teuluoedd sydd wedi chwalu.

Nodwch: Os oes angen Cymorth Hanfodol yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion arnoch chi, ffoniwch 01443 425003 (Llun-Gwener 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 (y tu allan i'r oriau yma).