Sylwch fod Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda a Chanolfan Hamdden Llantrisant yn parhau i fod yn lleoliadau hanfodol yn y rhaglen brechu torfol. Bydd y ddwy ganolfan yn parhau i weithredu gwasanaethau cyfyngedig (campfa, nofio a dosbarthiadau yn Llantrisant, campfa a dosbarthiadau yng Nghwm Rhondda) ond ni fyddan nhw'n cymryd rhan yn yr estyniad gwasanaeth.
Gweld mwy o fanylion ar ein tudalennau gwe Hamdden
Ewch i'r wefan Hamdden neu ddilyn @RCTLeisureService ar Facebook neu @rctleisure ar Twitter i weld y newiddion diweddaraf.
Achlysuron
Gweld y digwyddiadau diweddaraf yn RhCT.
Mae achlysuron yn gweithredu yn unol â'r Cyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.
Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda
Mae Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda a bellach ar agor. Mae'r gwasanaeth yma'n gweithredu yn unol â'r Cyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.
Mae modd cadw lle ar-lein neu trwy ffonio'r lleoliad rhwng dydd Mawrth a dydd Sadwrn, 9am-5pm.
Mae modd gweld rhagor o fanylion trwy
Llyfrgelloedd
Mae pob llyfrgell bellach ar agor i'r cyhoedd i ganiatáu pori yn unol â'r Cyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru. Dyma'r rhagofalon ychwanegol sydd ar waith;
- Gwasanaeth Archebu a Chasglu.
- Dim ond hyn a hyn o fenthycwyr caiff fod yn y llyfrgell ar unrhyw un adeg. Bydd y nifer uchaf o fenthycwyr sy'n cael dod i mewn i lyfrgell yn amrywio o safle i safle a bydd y rhif yma'n cael ei bennu cyn ailagor.
- Rhaid i bob benthyciwr wisgo mwgwd wyneb (oni bai bod rhesymau meddygol yn atal hyn) a diheintio eu dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad.
- Caiff yr amser yn y llyfrgell ei gyfyngu i 30 munud a chaiff benthycwyr eu hannog i ddefnyddio ciosgau hunanwasanaeth lle bo hyn ar gael.
- Bydd gweithdrefnau ar waith er mwyn i staff fonitro'r mesurau cadw pellter cymdeithasol.
- Mae sgriniau perspex wedi'u gosod mewn mannau lle y bydd cyswllt wyneb yn wyneb o bosibl yn digwydd.
- Seddi / dodrefn wedi'u symud o'r ardal.
- Bydd silffoedd y llyfrgell yn cael eu haildrefnu lle bo hynny'n bosibl i annog cadw pellter cymdeithasol a chreu systemau unffordd. Os yn bosibl, dylid defnyddio gwahanol ddrysau ar gyfer mynd i mewn ac allan o'r llyfrgell.
- Bydd defnydd cyfyngedig o ystafelloedd cyfarfod cymunedol yn cael ei ganiatáu hefyd.
- Bydd modd trefnu apwyntiad er mwyn defnyddio ardaloedd Cyfeirio. Bydd sesiynau awr o hyd ar gael ar gyfer hyd at 2 berson yn unig. Bydd unrhyw ddeunyddiau hanes lleol sy'n cael eu defnyddio yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr.
Sylwch y bydd yr holl gyfyngiadau Covid cyfredol ar ddarparu gwasanaethau yn parhau i fod yn berthnasol hyd nes y nodir yn wahanol.
Theatrau
Mae Theatrau RCT ar agor ac yn gweithredu yn unol â'r Cyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.
I weld y wybodaeth ddiweddaraf a'r amseroedd agor, ymwelwch â Theatrau RCT
Gwasanaeth IBobUn
Mae pob un o'n gwasanaethau IBobUN yn gweithredu yn unol â'r Cyfyngiadau Lefel Rhybudd COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.
Trefnwch eich apwyntiad ar-lein
Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae'r holl Gyfleusterau Cyhoeddus bellach AR AGOR.
Bydd toiledau cyhoeddus ar agor o 9am tan 4pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd y cyfleusterau'n cael eu glanhau'n rheolaidd ac rydyn ni'n atgoffa'r cyhoedd i barchu'r cyfleusterau a'r staff bob amser. Bydd unrhyw gamdriniaeth, camddefnydd neu fandaliaeth yn arwain at gau'r toiledau sydd wedi'u heffeithio ar unwaith.
- Mae toiledau Parc Coffa Ynysangharad ar agor 7 diwrnod yr wythnos - 8:30am tan 7pm.
- Mae toiledau Parc Aberdâr ar agor 7 diwrnod yr wythnos - 7am tan 7:30 pm
- Mae toiledau Parc Gwledig Cwm Dâr hefyd yn parhau ar agor 7 diwrnod yr wythnos - 9am tan 4pm.
Sylwch: Mae modd i amseroedd agor newid yn ystod cyfnodau'r Nadolig a Gwyliau Banc