Mannau chwarae:
Yn dilyn cyhoeddiad 'cyfnod atal byr' Llywodraeth Cymru, bydd yr holl barciau, mannau chwarae a mannau agored sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf a rhai sy'n cael eu cynnal a'u cadw ganddo, yn aros ar agor, oni bai eu bod eisoes ar gau ar gyfer gwaith uwchraddio/adnewyddu.
Mae rhai ardaloedd chwarae dan berchnogaeth cynghorau cymunedol neu sefydliadau eraill ac efallai nad ydyn nhw wedi ailagor eto - cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth. Cofiwch olchi'ch dwylo'n rheolaidd neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn ac ar ôl defnyddio'r offer.
Parciau a Mannau Agored
Yn dilyn cyhoeddiad 'cyfnod atal byr' Llywodraeth Cymru, o 6pm ar 23 Hydref, bydd cyfleusterau parcio ceir ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn CAU dros dro.
Mae parciau a mannau agored yn parhau i fod AR AGOR
Gweld rhagor o fanylion am fannau chwarae, parciau a mannau agored
Taliadau Parcio yng Nghanol Trefi wedi'u Hatal Dros Dro
Bydd costau parcio ym mhob maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor (o 10am bob dydd) yn Aberdâr a Phontypridd yn cael eu hatal o 1 Ionawr, 2021, nes bydd rhybudd pellach. Mae hyn yn ymestyn y trefniadau parcio am ddim sydd wedi bod ar waith ers 24 Hydref. Nodwch fod modd parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor ym mhob tref arall yn barhaol.
Nod y ddarpariaeth yma yw cefnogi'r economi leol drwy ddenu rhagor o bobl i wario'u harian mewn busnesau lleol. Yn ei dro, bydd hyn yn creu rhagor o swyddi yn y trefi dal sylw. Mae parcio ym mhob tref arall am ddim o hyd.
Priffyrdd
Bydd yr holl brosiectau peirianneg sifil presennol yn parhau yn ystod y cyfnod yma. Bydd y rhaglen o gynlluniau ail-wynebu hefyd yn parhau drwyddi draw, gan osgoi ardaloedd preswyl prysur lle bo hynny'n bosibl oherwydd bod mwy o gerbydau wedi'u parcio. Bydd gweithwyr y cyngor a gweithwyr dan gontract yn parhau i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr.
Uned Trafnidiaeth Integredig
Bydd holl staff Uned Trafnidiaeth Integredig y Cyngor yn gweithio gartref am y tro. Anfonwch unrhyw ymholiadau am gludiant i'r cyfeiriadau e-bost perthnasol (isod):
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Yn dilyn cyhoeddiad 'cyfnod atal byr' Llywodraeth Cymru, o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020, dylech chi ond ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion hanfodol:
- Siopa am eitemau hanfodol
- Teithio i'r gwaith, ond dim ond os nad oes modd i chi weithio gartref
- Casglu meddyginiaeth / mynychu apwyntiad meddygol
- Rhoi gofal i rywun sy'n agored i niwed
Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am eu gwasanaethau yn ystod y pandemig.
Nodwch: Bellach, rhaid gwisgo masg neu orchudd wyneb tair haen mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do, oni bai eich bod wedi'ch eithrio rhag gwisgo un oherwydd rhesymau meddygol. -Gweld canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru
Gwybodaeth am draffig
Bydd y newyddion teithio diweddaraf ar y radio a'r teledu yn rhoi gwybod i chi am unrhyw broblemau neu ffyrdd sydd ar gau.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae'r mwyafrif o hawliau tramwy cyhoeddus ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau ar agor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau brys (Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau'r Coronafeirws) (Cymru) 2020) . Mae'r rheoliadau yma'n caniatáu i awdurdodau lleol gau llwybrau cyhoeddus a thir mynediad lle mae defnydd ohonyn nhw'n peri risg uchel o ran lledaenu'r Coronafeirws.
Os yw'r Cyngor yn nodi ardaloedd/mannau lle mae grwpiau o bobl yn ymgynnull ac yn anwybyddu'r mesurau newydd gan Lywodraeth y DU i atal y Coronafeirws rhag lledaenu, bydd y Cyngor yn cau hawliau tramwy a mynediad i dir ar unwaith.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.