Skip to main content

Gwasanaethau Cofrestru, Priodasau a Phrofedigaethau

Gwasanaethau Profedigaethau

Mynychu Angladdau yn Amlosgfeydd Glyn-taf a Llwydcoed ac ym Mynwentydd Rhondda Cynon Taf

Nodwch: o ddydd Llun 9 Awst 2021 yn unol â chyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae modd i ni gynyddu nifer y mynychwyr sy’n gallu eistedd yn ddiogel yn Amlosgfeydd Glyn-taf a Llwydcoed i 60 o fynychwyr yn y ddau gapel.

Mae’n ofynnol i'r rheiny sy'n mynd i angladd wisgo gorchudd wyneb dan do trwy gydol y seremoni, ac eithrio unigolion sydd ag esgus rhesymol, megis:

  • dydy'r unigolyn ddim yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, neu oherwydd anabledd neu nam
  • mae'r unigolyn yng nghwmni rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau ar gyfer cyfathrebu

Rydyn ni'n deall y bydd hyn, o bosibl, yn anodd i nifer o alarwyr sy'n dymuno mynychu ond does dim modd iddyn nhw ei wneud o ganlyniad i gyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol. Mae gan amlosgfeydd yng Nglyn-taf a Llwydcoed system sy'n rhoi modd i ddangos gwasanaethau yn fyw, felly gall teulu neu ffrindiau nad ydyn nhw'n gallu mynychu'r Amlosgfa weld y rhain.  Mae modd gweld y gwasanaeth fel mae'n digwydd – 'ar y pryd'. 

Mae modd trefnu'r gwasanaeth darlledu yma trwy eich Trefnydd Angladdau penodedig, a fydd wedi cael mynediad i'r systemau yn yr Amlosgfa.

Os hoffech chi ddefnyddio'r gwasanaeth yma, trafodwch hyn gyda'ch Trefnydd Angladdau penodedig neu gysylltu â Gwasanaethau Profedigaethau.

Nid ar chwarae bach rydyn ni'n cyflwyno'r rheol yma – rydyn ni'n awyddus i gadw'n hymwelwyr a'n staff yn ddiogel.  Mae penderfyniadau yn seiliedig ar ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac efallai byddan nhw’n newid. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.

Rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd beidio â dod i swyddfa'r amlosgfeydd yn ystod y cyfnod yma. Mae modd gwneud taliadau dros y ffôn ac mae modd i ni ddelio â'ch ymholiadau dros y ffôn neu drwy'r cyfeiriad e-bost isod.

Os oes gyda chi ymholiadau o ran hyn, ffoniwch Swyddfa Gwasanaethau Profedigaethau'r Cyngor ar 01443 402810 neu e-bostio AmlosgfaGlyntaf@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd gysylltu ag Amlosgfa Llwydcoed a Mynwentydd Cwm Cynon drwy ffonio 01685 874115 neu e-bostio AmlosgfaLlwydcoed@rctcbc.gov.uk  

Darlledu' gwasanaethau yn fyw mewn Amlosgfeydd.

Mae gan amlosgfeydd yng Nglyn-taf a Llwydcoed system sy'n rhoi modd i ddangos gwasanaethau yn fyw, felly gall teulu neu ffrindiau nad ydyn nhw'n gallu mynychu'r Amlosgfa weld y rhain.  Mae modd gweld y gwasanaeth fel mae'n digwydd – ‘ar y pryd’.  Mae'r nifer sy'n cael bod yn bresennol yn yr Amlosgfa wedi cynyddu i 30 o bobl erbyn hyn, gan ddefnyddio'r ddau gapel i ganiatáu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol. 

Mae modd trefnu'r gwasanaeth darlledu yma trwy eich Trefnydd Angladdau penodedig, a fydd wedi cael mynediad i'r systemau yn yr Amlosgfa.

Os ydych chi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, trafodwch hyn gyda'ch Trefnydd Angladdau penodedig neu cysylltwch â'r Gwasanaethau Profedigaeth ar 01443 402810 (Amlosgfa Glyn-taf) neu 01685 874115 (Amlosgfa Llwydcoed.) Mae modd gofyn am wybodaeth ac arweiniad ar y gwasanaeth hwn hefyd trwy anfon ebost i AmlosgfaGlyntaf@rctcbc.gov.uk neu AmlosgfaLlwydcoed@rctcbc.gov.uk

Cofrestru Genedigaethau

O ddydd Llun 29 Mehefin, bydd modd i chi wneud apwyntiadau i gofrestru genedigaeth baban. 

Er mwyn lleihau cyswllt wyneb yn wyneb, bydd gofyn i chi siarad â'r Cofrestrydd mewn apwyntiad dros y ffôn - caiff y rhain eu cynnal yn ystod y bore.  Bydd hi dal yn ofynnol i'r rhiant/rhieni lofnodi'r gofrestr, felly bydd gofyn i chi ddod i'r Swyddfa Gofrestru yn y prynhawn ar ôl yr apwyntiad ffôn.  Bydd sgriniau rhyngoch chi a'r Cofrestrydd yn ystod y rhan yma o'r broses. 

Os dydych chi ddim wedi gallu cofrestru genedigaeth oherwydd COVID-19, rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod chi'n trefnu apwyntiad i wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Cofrestru Marwolaethau

Caiff pob marwolaeth ei chofrestru dros y ffôn.  Pan fydd y meddyg yn ymweld â'r ymadawedig ac yn cyhoeddi'r ffurflen Achos Marwolaeth (MCCD), bydd y feddygfa neu'r ysbyty wedyn yn anfon copi electronig ohoni i Swyddfa'r Cofrestrydd.  Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni i drefnu'ch apwyntiad ffôn, byddwn ni'n gwirio bod y ffurflen MCCD wedi'n cyrraedd ni; os nad yw hi gyda ni, byddwn ni'n cymryd eich manylion ac yn cysylltu â chi pan fydd hi'n dod i law. 

Pan fydd hi'n amser cynnal eich apwyntiad, byddwn ni'n eich ffonio chi ac yn cymryd yr holl fanylion sydd eu hangen i gofrestru'r brofedigaeth. Bydd tudalen swyddogol y gofrestr a'r tystysgrifau yn nodi'r holl wybodaeth sy'n cael ei darparu gan y sawl sy'n cofrestru'r farwolaeth. Byddwch gystal â sicrhau eich bod wedi sillafu popeth yn gywir cyn yr apwyntiad.

Os ydych chi wedi gofyn am gofrestriad dwyieithog, cofiwch sicrhau bod y sillafiadau Saesneg a Chymraeg cywir wrth law.

NODYN: Os byddwch chi'n darparu gwybodaeth ar adeg y cofrestru sydd angen ei chywiro'n ddiweddarach, bydd tâl o hyd at £90 ar gyfer gwneud unrhyw newidiadau.

Ar ddiwedd yr apwyntiad ffôn, byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi i gadarnhau bod y farwolaeth wedi'i chofrestru, ac yn anfon copi electronig o'r ffurflen ryddhau er mwyn claddu/amlosgi i'r Awdurdod Mynwentydd ac Amlosgi fel bod modd claddu/amlosgi'r ymadawedig.  Bydd y dystysgrif farwolaeth yn cael ei hanfon atoch chi trwy ddosbarthiad wedi'i gofnodi.  Os ydych chi neu'ch teulu'n sâl pan fyddwch chi wedi trefnu rhoi gwybod am y farwolaeth, gallwn ni gasglu'r wybodaeth berthnasol gan y Trefnwr Angladdau rydych chi wedi'i benodi i weithio ar eich rhan.  Nodwch: Rydyn ni'n hyfforddi rhagor o staff yn ystod y cyfnod yma er mwyn sicrhau bod modd i ni drefnu apwyntiadau gyda chi cyn gynted â phosibl; byddwch yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod yma - os gofynnwn i chi aros am ennyd i ni wirio rhywbeth, rydyn ni'n gwneud hynny er mwyn sicrhau eich bod chi'n derbyn y gwasanaeth rydych yn ei haeddu yn ystod y cyfnod anodd yma.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar 01443 494024

Priodasau a Seremonïau Partneriaeth Sifil

Rydyn ni wedi diweddaru'r 'Asesiad Risg' ar gyfer seremonïau ym Mhrif Adeiladau'r Cyngor. Bydd y newidiadau isod yn dod i rym o ddydd Sadwrn 4 Medi 2021.

Mae'r asesiad newydd yn caniatáu i uchafswm nifer y gwesteion (gan gynnwys ffotograffydd/fideograffydd a phlant) mewn seremonïau i gynyddu o 4 Medi 2021. Bydd modd i 10 ddod i seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru (ystafell fach), 28 yn Ystafell Evan James a 33 yn y Siambr Ddinesig. Nid yw'r briodferch a'r priodfab wedi'u cynnwys yn y nifer o westeion a ganiateir ar gyfer yr ystafelloedd yma.

Bydd raid i bob gwestai, heb gynnwys plant o dan 11 oed neu'r rhai sydd wedi'u heithrio'n feddygol, barhau i wisgo gorchudd wyneb wrth fynd i mewn i'r adeilad a rhaid i'r rhain barhau i gael eu gwisgo nes bod y Cofrestrydd yn cynghori'r holl westeion i dynnu eu gorchuddion wyneb pan fydd y seremoni yn cychwyn. Bydd y Cofrestrydd yn gofyn i'r holl westeion ailwisgo eu gorchuddion wyneb unwaith y bydd y seremoni gyfreithiol yn dod i ben

Os oedd rhaid i chi newid eich cynlluniau yn sgil COVID-19, ac os bydd gofyn i chi gyflwyno Hysbysiad o’r newydd ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth sifil, fydd dim gofyn i chi dalu eto am yr Hysbysiad yma.

Os oeddech chi wedi bwriadu priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil mewn Canolfannau wedi'u Cymeradwyo, fel gwesty, gyda Chofrestrydd yn bresennol.  Mewn achosion o'r fath, dylech gysylltu â'r Ganolfan sydd wedi'i Chymeradwyo yn gyntaf os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'ch priodas.

Gofynnwn i unrhyw un sydd â symptomau COVID, neu sy'n ynysu ar ôl i aelod o'r teulu fod â symptomau, beidio â dod i'r seremoni. Yn ogystal â hynny, gofynnwn i chi gadw at bellter cymdeithasol a chadw'n ddiogel wrth deithio i'r Swyddfa Gofrestru, yn ystod seremoni, ac wedi hynny.

Hysbysiadau Priodi / Partneriaethau Sifil Newydd

O ddydd Llun 29 Mehefin, byddwch chi'n gallu cyflwyno Hysbysiad newydd ar gyfer eich priodas neu'ch partneriaeth sifil.

Copïau o Dystysgrifau

Bellach dim ond dros y ffôn neu e-bost y mae modd gwneud ceisiadau am gopïau o dystysgrifau (genedigaethau, marwolaethau neu briodasau).  Bydd y dystysgrif yn cael ei hanfon atoch chi trwy'r post cyn gynted ag y bo modd i ni wneud hynny.

Hanes Teulu

Mae ceisiadau am gyngor a thystysgrifau i hwyluso chwiliadau Hanes Teulu wedi'u hatal am y tro.

Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.