Skip to main content

Cyngor a Chanllawiau i Fusnesau

Er mwyn helpu busnesau i baratoi ar gyfer codi'r cyfyngiadau'n raddol, mae amrywiaeth o ganllawiau a gwybodaeth wrthi'n cael eu llunio er mwyn cadw gweithleoedd, gweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel. 

Canllawiau Cyffredinol

Canllawiau Penodol i'r Sector

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau penodol i sectorau er mwyn i fusnesau weithredu'n ddiogel ac ailagor.

Profi, Olrhain, Diogelu ar gyfer Busnesau/Cyflogwyr

Ddylai eich gweithwyr DDIM mynychu'r gweithle os ydyn nhw'n dangos UNRHYW symptomau o’r Coronafeirws. Dylen nhw hunanynysu a threfnu prawf ar unwaith.

Posteri ac Adnoddau i'w Lawrlwytho

Mae adnoddau hyrwyddo AM DDIM ar gael i'w lawrlwytho a'u hargraffu er mwyn helpu busnesau a chyflogwyr i gadw eu gweithle'n ddiogel. 

Llywodraeth Cymru

Cyngor Rhondda Cynon Taf -  

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) -

Gwybodaeth gan sefydliadau dibynadwy

Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) –yn rhoi cyngor, canllawiau ac adnoddau i fusnesau bach a phobl hunangyflogedig ar sut i ailagor yn ddiogel, cymorth ariannol, cadw gweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel, a gwybodaeth ddefnyddiol arall. 

Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (‘ACAS’) - yn rhoi cyngor diduedd am ddim i weithwyr a chyflogwyr ar hawliau yn y gweithle, rheolau ac arfer gorau. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant ac yn helpu i ddatrys anghydfodau. Mae gan ACAS wybodaeth gynhwysfawr am absenoldeb ffyrlo, cyflog, diswyddo, tâl salwch, gweithio gartref a llawer mwy.

Cymdeithas Broffesiynol Lletywyr Hunanddarpar (PASC)- ar hyn o bryd yn canolbwyntio'n llawn ar gael mesurau Cymorth Busnes gan Lywodraeth EM ar gyfer busnesau llety hunanddarpar. Maen nhw'n rhoi cyngor a chanllawiau amrywiol, o sut i lanhau eich busnes, i asesiadau risg ac yswiriant.

Lletygarwch y DU – yn rhoi cyngor a chanllawiau i'r diwydiant lletygarwch, gan ddarparu'r newyddion diweddaraf yn rheolaidd, rhannu arferion gorau, atebion ac addasiadau busnes, hyfforddiant a mesurau ymarferol eraill.