Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn cyfnod y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau i gefnogi busnesau (yn bennaf yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad yw’n hanfodol) gyda chymorth llif arian ac i'w helpu i oroesi effeithiau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol gafodd eu cyflwyno ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020 a’u hymestyn ar 25 Ionawr i reoli lledaeniad Covid-19.
Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau eraill sydd yn eu lle i ymateb i Covid-19 i roi cymorth i fusnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Noder: os ydych chi eisoes wedi derbyn taliad o £3,000 neu £5,000 o Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau, byddwch chi'n derbyn taliad ychwanegol yn awtomatig a DOES DIM ANGEN i chi wneud cais pellach i'r gronfa grant yma.
Bydd yr estyniad i'r cynllun yn talu un taliad ychwanegol o naill ai £3,000 neu £5,000 i bob busnes cymwys sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau (ym mis Rhagfyr/Ionawr) ar gyfer y cyfnod rhwng 25 Ionawr a 31 Mawrth 2021.
Os nad ydych chi eto wedi gwneud cais am Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau, dylech chi wneud hyn cyn gynted â phosibl. Bydd eich cais yn cael ei ystyried am daliad o naill ai £6,000 neu £10,000.
Mae'r cynllun hefyd wedi'i ymestyn i gynnwys yr holl eiddo sydd â Gwerth Ardrethol rhwng £150,001 a £500,000 a bydd busnesau cymwys yn derbyn taliad o £5,000.
Mae'r gronfa'n cynnwys dau grant gwahanol:
Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Grant A:
Taliad grant arian parod o £6,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol â hereditamentau sy'n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Grant B:
Taliad grant arian parod o £ 10,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy'n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Grant C:
Taliad grant arian parod o £ 10,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy'n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £150,000.
Grant D:
Taliad grant arian parod o £5,000 ar gyfer busnesau lletygarwch / sefydliadau lletygarwch nid-er-elw a busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy'n meddiannu hereditamentau sydd â gwerth ardrethol rhwng £150,001 a £500,000.
Bydd y grantiau yma hefyd ar gael i gadwyni cyflenwi busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden / sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a hamdden nid-er-elw a busnesau manwerthu sydd ag eiddo cymwys a all ddangos tystiolaeth (drwy hunan-ddatgan) bod dros 40% o ostyngiad mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau newydd.
Bydd gofyn i'r busnesau hynny hunan-ddatgan a ydyn nhw wedi profi gostyngiad o 40% yn eu trosiant ym mis Rhagfyr 2020 o gymharu â mis Rhagfyr 2019. Os nad oedd y busnes yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019, dylid cymharu trosiant mis Rhagfyr 2020 â throsiant mis Medi 2020. Rhaid i'r gostyngiad mewn trosiant fod o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau newydd a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr ac ers hynny.
Does dim angen i fusnesau lletygarwch a manwerthu nad yw’n hanfodol cymwys a sefydliadau nid-er-elw wneud hunan-ddatganiad o unrhyw fath mewn perthynas â'u trosiant.
Rhaid bod hereditament yr ymgeisydd wedi bod ar restr raddio Ardrethi Annomestig o 1 Medi 2020 a rhaid i'r trethdalwr fod wedi meddiannu'r eiddo o 30 Tachwedd 2020 ymlaen.
Peidiwch â llenwi'r ffurflen gais yma oni bai eich bod yn atebol am dalu ardrethi busnes i'ch awdurdod lleol.
Am ragor o wybodaeth darllenwch ddogfen canllawiau Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud
Gwneud cais am Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa Busnes Cyfyngiadau
Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo'r busnesau hynny sydd DDIM wedi cofrestru i dalu Cyfraddau Annomestig ac sydd wedi:
- Gorfod cau o ganlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd ar waith.
NEU
- Yn amcangyfrify bydd y cyfyngiadau estynedig sydd ar waith yn arwain at ostyngiad o 40% neu ragor yn eu trosiant o gymharu â chyfnod masnachu di-gyfyngiad cyfatebol cyn 23 Mawrth 2020.
Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny a ddechreuodd fasnachu ar ôl 23 Mawrth 2020, efallai bydd gofyn i chi ddatgan (a dangos o bosibl) gostyngiad o 40% yn y trosiant am gyfnod masnachu cyfatebol ers dechrau'r busnes.
Cyn gwneud cais gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio cymhwysedd eich busnes trwy ddarllen Canllawiau Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Gwneud cais am Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Does DIM MODD gwneud cais am y grant Ardrethi Annomestig a'r Grant Dewisol, a dylai busnesau fod yn ymwybodol y bydd POB cais anghywir a wneir i'r cynllun grant yn cael ei wrthod, a bydd gofyn i chi gyflwyno cais arall i'r gronfa gywir. Felly, mae'n hanfodol eich bod chi'n darllen y manylion ar y ffurflen gais a'r canllawiau yn ofalus.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.