Defnyddiwch yr adnodd darganfod cymorth i fusnesau i weld pa gymorth sydd ar gael i chi a'ch busnes. Mae cymorth ar gael i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig, gan gynnwys unig fasnachwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig. Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael benthyciadau, rhyddhad treth, gohirio TAW a grantiau arian parod, p'un a yw eich busnes ar agor neu ar gau.