Mae'r Cynllun Tâl Salwch Statudol Ychwanegol yn cefnogi gweithwyr gofal sydd ond yn derbyn
Tâl Salwch Statudol (gov.uk) pan fyddan nhw'n absennol o'r gwaith, neu weithwyr nad ydyn nhw'n gymwys am Dâl Salwch Statudol.
Mae'n golygu bod modd i gyflogwyr dalu eu cyflog llawn i weithwyr cymwys os nad oes modd iddyn nhw weithio oherwydd COVID-19 neu os oes rhaid iddyn nhw hunanynysu.
Mae hyn yn dileu'r anfantais ariannol i weithwyr gofal sy'n methu mynd i'r gwaith. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
Bydd angen i chi ofyn i'ch cyflogwr er mwyn gallu bod yn rhan o'r cynllun yma. Bydd eich cyflogwr yn gallu rhannu'r manylion sydd eu hangen arnoch chi i wneud cais am y taliad.
Er mwyn gweld y manylion llawn ynghylch cymhwysedd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau penodol mewn perthynas â chymhwyster ar gyfer y cynllun, dylech chi gysylltu â'ch cyflogwr.
Os ydych chi'n gyflogwr neu'n gweithio ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf ac yn dymuno gwneud hawliad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y cynllun, e-bostiwch
CynllunYchwanegiadTSS@rctcbc.gov.uk.
Dim ond cyflogwyr dylai ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yma.
Cynllun cymorth hunanynysu
Efallai y bydd gweithwyr gofal hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun Cymorth Hunanynysu os ydyn nhw'n derbyn rhai budd-daliadau.
Mae'r cynllun yma'n darparu taliad o £500 i bobl sydd:
- wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu oherwydd eu bod wedi profi'n bositif am COVID-19 neu
- wedi eu nodi fel cyswllt agos gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru
OND, mae modd i chi wneud cais ar gyfer UN CYNLLUN YN UNIG, nid y ddau. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y ddau gynllun mae'n rhaid i chi benderfynu pa un i wneud cais amdano ar gyfer pob absenoldeb.
Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Hunanynysu