Skip to main content

Cefnogaeth a Chymorth Cymunedol

Trwy gydol pandemig y Coronafeirws mae'r Cyngor wedi darparu cefnogaeth sylweddol i drigolion sy'n agored i niwed, o'r Canolfan/Hwb Cydnerthedd Cymunedol sydd wedi'u lleoli ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae staff y Cyngor a Gwirfoddolwyr Cydnerthedd Cymunedol wedi gweithio ochr yn ochr â'r trydydd sector a Chymunedau i gefnogi bron i 14,000 o drigolion agored i niwed yn RhCT.

Wrth i sefyllfa'r Coronafeirws newid yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wrando ar gyngor Iechyd ac adolygu'r sefyllfa.

Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf ar dudalennau Cyngor RhCT a thrwy'r dolenni canlynol:

Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y rhai sy'n cael eu gwarchod

Mae modd i drigolion oedd yn cael eu gwarchod oherwydd rhesymau meddygol (ar y rhestr o gleifion sy'n cael eu gwarchod) ddod o hyd i ragor o wybodaeth, y cytunwyd arni gan bedair Gwlad y DU ar y dolenni isod:

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-i-html

Cefnogaeth a Chymorth

Mae modd i chi ofyn am gefnogaeth ar unrhyw adeg os byddwch chi ei angen os DOES DIM gyda chi gefnogaeth gan deulu, ffrindiau neu'ch cymuned.

Mae modd i Garfanau eich Hwb Cydnerthedd Cymunedol lleol neu Wirfoddolwyr Interlink neu RhCT eich helpu chi â'r canlynol:

  • Cymorth i fynd allan i siopa
  • Cymorth i fynd allan i gasglu presgripsiwn
  • Cymorth i gael mynediad at Grŵp Cymunedol neu Weithgaredd
  • Galwad ffôn gyfeillgar i gadw mewn cysylltiad
  • Cymorth i ddod o hyd i waith, neu dderbyn hyfforddiant cysylltiedig â gwaith
  • Gwybodaeth ac arweiniad am arian neu fudd-daliadau
  • Gwybodaeth am wasanaeth 'Gartref' y llyfrgell
  • Gwybodaeth am y Gwasanaeth 'Lifeline Plus'
  • Eich cefnogi o ran eich lles os ydych chi'n pryderu, neu os ydych chi'n ddrysylyd neu'n unig

Mae modd i chi ofyn am gymorth trwy ffonio 01443 425003 neu drwy lenwi'r ffurflen ar-lein yma

Bydd y Cyngor yn rhannu eich manylion gyda'r adran berthnasol gan ddibynnu ar eich anghenion. Weithiau, efallai y bydd rhaid i ni rannu eich manylion â sefydliadau allanol os does dim modd i ni ddarparu'r cymorth rydych chi wedi gofyn amdano.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn prosesu a gwarchod eich gwybodaeth, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd. Dilynwch y ddolen isod i fwrw golwg arno: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata

Profi, Olrhain, Diogelu

Os ydych chi wedi cael eich cynghori i hunanynysu gan y garfan 'Profi, Olrhain a Diogelu'

Mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael i chi wrth ddilyn y ddolen yma:

Gall trigolion sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu gan y garfan Profi, Olrhain, Diogelu, ac sydd HEB rwydwaith cymorth hefyd ofyn am gymorth yma neu fel arall ffoniwch 01443 425003

Os oes angen cyngor pellach arnoch chi neu os ydych chi'n pryderu, cysylltwch â'r canlynol:

Age Cymru 

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg 

ctmmind.org.uk

Cadw cyswllt â'ch cymuned

Cofiwch ei bod yn hawdd gwirio a yw'ch cymdogion, eich ffrindiau a'ch teulu - ac eraill yn eich cymuned sydd mewn perygl o deimlo'n ynysig - yn iawn heb orfod dod i gysylltiad agos gyda nhw. Mae bob amser yn syniad da i weld rhywun ac i siarad, felly efallai bydd modd i chi gysylltu â chymdogion ychydig yn amlach ac os yw'n bosibl gwneud hyn gan ddilyn y canllawiau cyfredol.

Gwirfoddoli

Os yw'r Coronafeirws wedi'ch helpu i ddeall sut beth yw bod yn ynysig, ac os ydych chi'n iach, beth am estyn llaw at y bobl hŷn yn eich cymuned. Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli, cysylltwch â Interlink RhCT neu Volunteering Matters.