Skip to main content

Mae'r broses Profi, Olrhain, Diogelu nawr ar waith yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r broses Profi, Olrhain, Diogelu bellach ar waith yn Rhondda Cynon Taf ac ar hyd rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dylai unrhyw drigolyn neu weithiwr allweddol â symptomau o'r Coronafeirws ofyn am brawf
Os oes gyda chi, neu rywun sy'n byw yn eich cartref, symptomau o'r Coronafeirws, cewch chi drefnu prawf yma.

Os nad oes modd ichi weithio gartref a DOES DIM symptomau'r Coronafeirws gyda chi, mae modd i chi bellach gasglu Profion Cyflym i'w cynnal gartref eich hunan yn rheolaidd. Mae citiau hunan-brofi ar gael o rai safleoedd profi.

Mae'r rhaglen yn rhan allweddol o gynllun adfer Covid-19 Llywodraeth Cymru, gan helpu i ddod o hyd i ffordd i bobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr yn ochr â'r feirws wrth geisio atal yr haint rhag lledaenu a diogelu ein ffrindiau, teulu a chymdogion rhagddi.

O ganlyniad i ebyrth trigolion dros y misoedd diwethaf, mae'r gyfradd “R” (y Gyfradd Drosglwyddo) wedi lleihau digon i lacio'r cyfyngiadau symud. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i aelodau dau gartref gwrdd yn yr awyr agored yn eu hardal leol ar yr amod bod rheolau cadw pellter cymdeithasol (2 fetr) yn cael eu dilyn ar bob adeg.

Hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r broses Profi, Olrhain, Diogelu a llacio cyfyngiadau symud, mae'n bwysicach nac erioed i drigolion gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid da gan gynnwys golchi dwylo'n rheolaidd. Dylid parhau i weithio gartref os oes modd a cheisio osgoi trafnidiaeth gyhoeddus ac ardaloedd lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth, cyngor a chymorth am y Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/IechydCyhoeddusRhCT

Mae modd i gynnydd sylweddol mewn achosion o'r Coronafeirws lethu'r broses Profi, Olrhain, Diogelu, cynyddu'r pwysau ar y GIG ac arwain at gyfyngiadau aros gartref llymach unwaith eto – does neb eisiau hyn yn dilyn yr aberth anhygoel mae trigolion wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf er mwyn cyrraedd y man yma.

Mae olrhain cysylltiadau'n golygu bydd modd gofyn i bobl hunanynysu sawl tro. Wrth i fwyfwy o bobl ddod i gysylltiad yn amlach ag eraill, mae'n fwy tebygol bydd angen iddyn nhw hunanynysu, fodd bynnag, mae hyn yn hanfodol er mwyn osgoi'r Coronafeirws rhag cael ei drosglwyddo.

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu'r broses Profi, Olrhain, Diogelu ar gyfer pobl y rhanbarth. Bydd y broses yn olrhain cysylltiadau pobl sydd wedi profi'n bositif â Choronafeirws, yn rhannu cyngor iechyd cyhoeddus ac yn trefnu profion pellach i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw os oes gyda nhw symptomau.

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gymorth amrywiol ar gael i bobl sydd angen help wrth hunanynysu, a gwybodaeth am gymorth sydd ar gael i'r rhai sydd angen hunanynysu os byddan nhw wedi derbyn prawf Coronafeirws positif. 

Rhagor o wybodaeth ar wefannau perthnasol y Cyngor ar y Coronafeirws

Profi, Olrhain, Diogelu

Mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael ichi os ydych chi:

  • Wedi drysu ynghylch ystyr hunanynysu i chi
  • Wedi profi'n bositif am COVID
  • Wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy wedi cael prawf positif am COVID
  • Yn poeni am rywun sy'n hunanynysu

Mae modd bwrw golwg ar y cyngor a'r arweiniad yma, neu fel arall ffoniwch 01443 425020           

Mae modd i drigolion sydd wedi cael eu cynghori i ‘hunanynysu’ gan y Swyddogion Olrhain Cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu, neu sydd yn y grŵp o bobl sy'n cael eu gwarchod A does ganddyn nhw ddim rhwydwaith cymorth i, er enghraifft; casglu presgripsiynau, siopa bwyd, cerdded cŵn, neu maen nhw'n dymuno derbyn galwad ffôn cyfeillgar hefyd ofyn am gymorth yma.

Mae modd i rywun arall hefyd lenwi'r cais ar eich rhan, neu gallwch gysylltu â'r Cyngor ar 01443 425020