Os oes gyda chi symptomau'r Coronafeirws, RHAID i chi hunanynysu gartref a
gwneud cais am brawf.
Dyw ap COVID-19 y GIG ddim yn disodli'r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Pan fydd Swyddogion Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â chi, RHAID i chi roi eich manylion er mwyn lleihau lledaeniad y Coronafeirws a helpu i gadw RhCT yn ddiogel.
Symptomau'r Coronafeirws:
- tymheredd uchel: mae hyn yn golygu eich bod yn teimlo’n boeth wrth gyffwrdd eich brest neu gefn (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
- peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu peswch llawer am dros awr, neu 3 neu fwy pwl o beswch mewn 24 awr (os ydych yn peswch fel arfer, gallai fod yn waeth nag arfer)
- colli neu weld newid yn eich synnwyr blasu neu arogli: mae hyn yn golygu eich bod yn sylwi nad oes modd i chi arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau yn arogli neu flasu yn wahanol i’r arfer
RHAID i unrhyw un sy'n cael canlyniad positif am y Coronafeirws hunanynysu am 10 diwrnod.
Dylech chi ddilyn y canllawiau hunanynysu. Hyd yn oed os yw eich symptomau'n ysgafn, rhaid i chi beidio â gadael eich cartref. Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eu symptomau. Rhaid i unrhyw un sy'n byw yn yr un tŷ â chi ac sydd heb symptomau hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl i'r person cyntaf yn eich cartref ddechrau cael symptomau.
Er mwyn diogelu eraill, peidiwch â mynd i fannau fel y feddygfa, y fferyllfa neu'r ysbyty os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn. Arhoswch gartref (hunanynysu) a gwnewch gais am brawfcyn gynted ag y byddwch yn dechrau datblygu symptomau.
O dan strategaeth Prawf, Olrhain ac Amddiffyn y Llywodraeth, gofynnir i chi am fanylion y bobl rydych chi wedi dod i gysylltiad â nhw 48 awr cyn dechrau symptomau Coronavirus a hyd at saith diwrnod ar ôl, fel y gall y bobl hynny hunanynysu am 10 diwrnod . Ni ofynnir i chi pam y cawsoch gysylltiad â pherson na beth yr oeddech yn ei wneud gyda'r person hwnnw. Mae rheolau cyfrinachedd llym ar waith - ni fydd manylion eich cysylltiadau yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall ac ni fydd y tîm olrhain cysylltiadau yn hysbysu cysylltiadau mai chi sydd wedi profi'n bositif.
Bydd Olrheinwyr Cysylltiadau yn ffonio o 02921 961133, ac yn anfon negeseuon testun o 07775 106684.
Mae’n bwysig iawn bod pobl yn cymryd rhan yn y broses profi ac olrhain cysylltiadau er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
Mae rhagor o wybodaeth am Brofi, Olrhain, Diogelu ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Profi, Olrhain, Diogelu
Mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael ichi os ydych chi:
- Wedi drysu ynghylch ystyr hunanynysu i chi
- Wedi profi'n bositif am COVID
- Wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy wedi cael prawf positif am COVID
- Yn poeni am rywun sy'n hunanynysu
Mae modd bwrw golwg ar y cyngor a'r arweiniad yma, neu fel arall ffoniwch 01443 425020
Mae modd i drigolion sydd wedi cael eu cynghori i ‘hunanynysu’ gan y Swyddogion Olrhain Cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu, neu sydd yn y grŵp o bobl sy'n cael eu gwarchod A does ganddyn nhw ddim rhwydwaith cymorth i, er enghraifft; casglu presgripsiynau, siopa bwyd, cerdded cŵn, neu maen nhw'n dymuno derbyn galwad ffôn cyfeillgar hefyd ofyn am gymorth yma.
Mae modd i rywun arall hefyd lenwi'r cais ar eich rhan, neu gallwch gysylltu â'r Cyngor ar 01443 425020
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.