Casgliadau wrth ochr y ffordd
Mae'r HOLL gasgliadau ailgylchu a bagiau du wrth ochr y ffordd yn gweithredu yn ôl yr arfer ar hyn o bryd, ac eithrio gwastraff gwyrdd.
- Ailgylchu cymysg sych – Bob wythnos
- Gwastraff bwyd – Bob wythnos
- Casgliadau cewynnau – Bob wythnos
- Bagiau du/Biniau olwynion - Bob pythefnos
Yn achos salwch staff ac er mwyn rheoli adnoddau staff yn effeithiol yn ystod y cyfnod yma, efallai bydd rhywfaint o darfu ar y gwasanaeth. Os bydd tarfu ar y gwasanaeth, byddwch yn amyneddgar a byddwn ni'n ymdrechu i aildrefnu casgliadau pan fydd amodau'n gwella.
Gwastraff gwyrdd
Mae casgliadau gwastraff gwyrdd/gwastraff o'r ardd wedi cael eu gohirio am y tro er mwyn adleoli'r holl adnoddau a'u defnyddio ar gyfer prif gasgliadau Ailgylchu a Gwastraff.
Sut i gael gwared ar wastraff os oes Coronafeirws arnoch chi
Os yw trigolyn yn dioddef o Coronafeirws, mae gofyn i chi gael gwared ar wastraff yn y ffordd isod:
- Cofiwch: Dylech chi roi hancesi papur, papur cegin neu bapur tŷ bach rydych chi wedi'u defnyddio i chwythu'ch trwyn ac ati yn eich BAGIAU DU yn unig.
- Rhowch hancesi papur wedi'u defnyddio a chlytiau glanhau mae modd eu taflu mewn bag(iau) du. Yna, rhowch y bag mewn ail fag, ei glymu'n ddiogel a'i gadw ar wahân i wastraff arall. Arhoswch am 72 awr cyn ei roi yn eich bin tu fas/allan i'w gasglu.
- PEIDIWCH â rhoi'r eitemau yma yn eich bagiau ailgylchu gan nad oes modd eu hailgylchu, a gallai hyn peryglu gweithwyr y Cyngor a’u gwneud nhw’n fwy agored i ddal y firws.
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned:
Mae POB Canolfan Ailgylchu bellach ar gau i'r cyhoedd.
Mae siopau 'The Shed' yn Llantrisant a Threherbert AR GAU am y tro.
Mae'r cyfleusterau yma wedi'u cau yn sgil gostyngiadau staff, a hefyd er mwyn dilyn canllawiau cenedlaethol sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol ac i osgoi ymgynnull mewn grwpiau.
Ble’n bosibl, rydyn ni'n gofyn i drigolion gadw gwastraff gwyrdd a deunyddiau eraill fel pren, metel sgrap, matresi, paent, rwbel, dillad a dodrefn tan ar ôl i'r argyfwng cenedlaethol yma ddod i ben, pan fydd y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned a'r casgliadau yn dychwelyd i'r drefn arferol.
Peidiwch â chael gwared ar yr eitemau yma'n anghyfreithlon - bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn gwneud hynny yn wynebu camau gorfodi.
Casglu Eitemau Mawr a Biniau Olwynion Newydd
Mae casgliadau gwastraff mawr a biniau olwynion newydd wedi'u gohirio am y tro. Bydd unrhyw rai sydd eisoes wedi cael eu harchebu yn cael eu casglu/dosbarthu.
Safleoedd SORT
Fydd safleoedd SORT Cymunedol y Cyngor ddim yn cael eu gwasanaethu mwyach. Felly, mae eisiau i breswylwyr ddefnyddio casgliadau wrth ymyl y ffordd gymaint ag sy’n bosibl.
Bagiau Ailgylchu a Cheisiadau am Finiau Gwastraff Bwyd
Bydd y Cyngor yn parhau i sicrhau bod bagiau ailgylchu ar gael yn y mannau dosbarthu sy'n gallu aros ar agor. Fodd bynnag, does dim modd archebu bagiau ailgylchu drwy'r ganolfan alwadau nac ar-lein ar hyn o bryd. Bydd hyn yn caniatáu i'r wasanaeth Gwastraff ddargyfeirio'r holl adnoddau sydd ar gael i gynnal casgliadau wythnosol cyhyd ag y bo modd.
- Mae modd i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru barhau i drefnu bagiau porffor ar-lein, yn ôl yr arfer.
- Mae modd parhau i archebu biniau bwyd ar-lein, yn ôl yr arfer.
Casglu Eitemau Mawr
Rydyn ni bellach wedi ailddechrau casglu eitemau mawr, a byddwn ni'n cynnig gwasanaeth cyfyngedig am y tro er mwyn helpu ein preswylwyr ledled y Fwrdeistref Sirol.
Gallwch drefnu ein bod ni'n casglu 'Eitemau Mawr Hanfodol i'r Cartref' ar-lein yma.
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned
Mae pob CRCs yn Rhondda Cynon Taf ar agor, 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 7:30pm.
Yma Manylion
Y Sied yn Llantrisant a Threherbert bellach ar agor.
Archebu Biniau ar Olwynion Newydd
Mae'r broses o ran archebu a darparu biniau ar olwynion newydd wedi'i atal am gyfnod amhenodol.
Safleoedd 'SORT'
Fydd safleoedd SORT Cymunedol y Cyngor ddim yn cael eu gwasanaethu mwyach. Felly, mae eisiau i breswylwyr ddefnyddio casgliadau wrth ymyl y ffordd gymaint â phosibl
Cwsmeriaid Gwastraff Masnachol
- Byddwn ni'n dal i gasglu gwastraff masnachol yn ôl yr arfer ac mae modd i chi ddal ati i archebu bagiau ar-lein.
- Byddwn ni'n lleihau nifer y sgipiau rydyn ni'n eu casglu gan gwsmeriaid gwastraff masnachol. Byddwn ni mewn cysylltiad â'r cwsmeriaid hynny a gaiff eu heffeithio gan hyn.