Skip to main content

Cais am gymorth

Bydd Canolfannau Cydnerthedd yn y Gymuned yn cael eu sefydlu ledled y Fwrdeistref Sirol i gefnogi'r rhai sydd wedi cael eu cynghori gan Lywodraethau'r DU a Chymru i hunan-ynysu - y rhai sydd dros 70 oed, sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, sy'n feichiog neu sy'n arddangos symptomau'r feirws.

Bydd cyfanswm o saith canolfan yn cydlynu staff y Cyngor a gwirfoddolwyr Cydnerthedd yn y Gymuned, ochr yn ochr â'r trydydd sector, i gefnogi rhwng 10,000 a 15,000 o bobl sy'n agored i niwed sydd angen hunan-ynysu am gyfnod o 12 wythnos o leiaf.   Bydd y Canolfannau Cydnerthedd yn y Gymuned hefyd yn cefnogi'r rhai dros 70 oed, sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, sy'n feichiog, neu'n arddangos symptomau o'r feirws. Dydy'r cyfleusterau yma ddim yn agored i'r cyhoedd.

Os does gyda chi ddim pobl sy'n gallu eich helpu a'ch cefnogi, rydyn ni'n cynghori trigolion i ofyn am gymorth  yma.

Fel arall, ffoniwch ni, y Cyngor, ar 01443 425003.

Noder: Os oes angen Cymorth Hanfodol yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion arnoch chi, ffoniwch 01443 425003 (Llun-Gwener 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 (y tu allan i'r oriau yma).

Cyn bo hir, bydd trigolion sy'n agored i niwed gyda chyflyrau iechyd difrifol sylfaenol yn derbyn llythyr drwy'r post gan y GIG. Mae'r llythyr cyngor yn cyfarwyddo'r unigolion hynny i droi at gymorth gan ffrindiau, teulu neu gymdogion ar gyfer tasgau gan gynnwys mynd i nôl bwyd a meddyginiaeth yn ystod y cyfnod o ynysu. 

Os does neb gyda chi sy'n gallu eich helpu a'ch cefnogi, rydyn ni'n cynghori trigolion i Ofyn am Gymorth yma.

Fel arall, ffoniwch ni, y Cyngor, ar 01443 425003.

Noder: Os oes angen Cymorth Hanfodol yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion arnoch chi, ffoniwch 01443 425003 (Llun-Gwener 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 (y tu allan i'r oriau yma).

Bydd trigolion yn y sefyllfaoedd yma yn parhau i gael y gofal iechyd sydd ei angen arnyn nhw yn ystod y cyfnod yma. Mae meddygon teulu a'r garfan gofal ysbyty yn gwybod pwy sydd yn y categori risg uchel yma a byddan nhw mewn cysylltiad os oes angen unrhyw newidiadau i ofal unigolyn.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn galw ar wirfoddolwyr i chwarae rhan yn y cymorth cydnerthedd cymunedau yma, gan gydweithio â Swyddogion y Cyngor a'r trydydd sector. Mae mwy o fanylion am sut mae modd i breswylwyr helpu ar gael ar y tudalennau Cydnerthedd Cymunedau.

Cyngor manwl pellach ar hunan-ynysu yn y cartref.