Mae'r dudalen yma'n amlinellu'r gwasanaethau cymorth ar gyfer y rhai sy'n dioddef cam-drin yn y cartref sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl leol. Mae'n arbennig o bwysig i drigolion fod yn effro i'r rhain yn ystod cyfnod y Coronafeirws, pan gaiff pobl eu gofyn i aros gartref am gyfnodau hir er mwyn atal y feirws rhag ymledu.

Beth yw cam-drin yn y cartref? 

Dyma ddiffiniad: "Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad sy'n rheoli, yn gorfodi neu'n bygwth, neu drais neu gam-drin rhwng pobl dros 16 mlwydd oed sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu aelodau o’r teulu, waeth beth fo’u rhyw neu rywioldeb." 

make yourself heard
OS YDYCH CHI MEWN PERYGL UNIONGYRCHOL O GAEL NIWED O GANLYNIAD I GAM-DRIN YN Y CARTREF FFONIWCH 999.

Gwasanaethau cymorth: 

Canolfan Oasis Cyngor Rhondda Cynon Taf: 

Mae'r gwasanaeth yma'n rhoi cymorth i ddynion a menywod sy'n 16 oed neu'n hŷn ac sy'n dioddef o gam-drin yn y cartref. 

Byw Heb Ofn: 

Mae'r ymgyrch yma'n ceisio atal trais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref, a thrais rhywiol. 

Cymorth i Fenywod RhCT: 

Mae'r grŵp yma sydd wedi'i leoli yn Rhondda Cynon Taf yn rhoi cefnogaeth i fenywod 16 oed neu'n hŷn sy'n dioddef cam-drin yn y cartref.  

  • Ffoniwch y llinell gymorth 24 awr Byw Heb Ofn (0808 80 10 800) i gael eich cyfeirio at Garfan Cymorth i Fenywod RhCT. 
  • E-bost: info@wa-rct.org.uk 

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.