Cyn gwyliau'r banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.
I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook.
I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook
Oriau Agor Gwyliau Banc Mis Awst 2023
Bydd y Cyngor ar gau ar y gwyliau banc canlynol:
- Dydd Llun 28 Awst ac ail-agor am 9am dydd Mawrth 29 Awst
Bydd hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth ar wahân i argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa. Mae manylion o'r gwasanaethau sydd ar gael, ynghyd â'u horiau agor, wedi'u nodi isod.
Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch i'r tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'u horiau agor dros Ŵyl y Banc.
Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnodau yma, ond rhaid i breswylwyr gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor.
Biniau ac Ailgylchu
Does DIM NEWIDIADAU i'ch casgliadau Ailgylchu a Gwastraff dros y gwyliau banc yma. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol.
Bydd y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor dros y gwyliau banc, yn barod i dderbyn eich holl ddeunydd ailgylchu. Yr oriau agor yw 8am tan 7.30pm (oriau agor yr haf). Mae modd i chi fwrw golwg ar fanylion llawn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu.
Ewch i'r tudalennu ailgylchu am wybodaeth gyffredinol am ailgylchu, gan gynnwys Dod o hyd i'ch diwrnod casglu a chanllawiau clir am yr hyn mae modd ei ailgylchu.
Gofal Cymdeithasol
Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol dros Ŵyl y Banc, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:
- Materion Gofal Cymdeithasol Brys tu allan i oriau'r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a chyfnod y Nadolig: 01443 743665.
I'r rheiny sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros benwythnos Gŵyl y Banc, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y maen nhw wedi'u darparu.
Prydau yn y Gymuned (Pryd-ar-glud)
Bydd y garfan Prydau yn y Gymuned yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth dros Ŵyl y Banc ac mae wedi trafod dewisiadau'r fwydlen gyda defnyddwyr y gwasanaeth i archebu ymlaen llaw, lle bo angen.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.
Digartrefedd
Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.
Mae gwasanaeth brys y tu allan i oriau arferol y swyddfa hefyd ar gael dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011.
Y Swyddfa Gofrestru
Bydd y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd AR GAU ar:
- Dydd Llun 28 Awst ac ail-agor am 9am dydd Mawrth 29 Awst
Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau
Bydd y brif swyddfa (Glyn-taf) AR GAU ar:
- Dydd Llun 28 Awst ac ail-agor am 9am dydd Mawrth 29 Awst
Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tir y Mynwentydd dros Ŵyl y Banc.
- Gweld oriau agor y Mynwentydd.
Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.
Os bydd raid cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.
Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed os na allwn ni roi mynediad i gerbydau, ond cofiwch fod yn ofalus wrth ymweld â'n mynwentydd mewn tywydd garw a gwisgwch ddillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi damweiniau a niwed.
Toiledau Cyhoeddus
- AR GAU dydd Llun 28 Awst ac ail-agor am 9am dydd Mawrth 29 Awst
Mae modd gweld manylion llawn a lleoliadau'r cyfleusterau hyn yma -Toiledau Cyhoeddus
Canolfannau hamdden
Ewch i'r wefan Hamdden neu ddilyn @RCTLeisureService ar Facebook i gael manylion am oriau agor eich canolfan leol.
Taith Pyllau Glo Cymru
Ewch i wefan Taith Pyllau Glo Cymru neu ddilyn @RhonddaHeritage ar Twitter neu @RhonddaHeritagePark ar Facebook am fanylion achlysuron ac oriau agor.
Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty
Ewch i wefan Lido Ponty neu ddilyn @LidoPonty ar Twitter a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.
Llyfrgelloedd
Bydd llyfrgelloedd AR GAU ar:
- Dydd Llun 28 Awst ac ail-agor am 9am dydd Mawrth 29 Awst.
Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd
Gwasanaeth Cyngor IBobUn
Bydd swyddfeydd IBobUn ar gau ar:
- Dydd Llun 28 Awst ac ail-agor am 9am dydd Mawrth 29 Awst
Trefnwch apwyntiad ar gyfer ar ôl Gŵyl y Banc yma
Parc Gwledig Cwm Dâr
Mae modd dod o fyd i fanylion llawn am y cyfleuster yma - Parc Gwledig Cwm Dâr
Theatrau
Ewch i wefan Theatrau RhCT neu ddilyn @RCTtheatres ar Twitter a @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.
Gwybodaeth am Ysgolion a Chludiant Ysgol
Bydd pob ysgol AR GAU.
Dilynwch y dolenni isod i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am dymhorau'r ysgolion, diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd, cludiant ysgol ac ysgolion sydd wedi'u cau, ac ati.
- Rhagor o wybodaeth am ddyddiadau tymhorau'r ysgolion, diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd, ac achosion o gau ysgolion ar fyr rybudd.
- Rhagor o wybodaeth am lwybrau cludiant ysgol a newidiadau brys i'r gwasanaeth.
Ffyrdd ar gau
Dyma'r tudalennau ar gyfer gwybodaeth am ffyrdd sydd ar gau -
Meysydd parcio
Mae modd parcio am ddim ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd bob dydd Sul ac ar Wyliau Banc. Nodwch fod y meysydd parcio hynny sydd ar glo y tu allan i oriau codi tâl arferol, e.e. Maes Parcio Aml-lawr Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd, ar gau bob dydd Sul ac ar Wyliau Banc.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Cewch chi'ch cynghori i gysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod Gŵyl y Banc ac yn ystod tywydd garw.
Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng:
Er gwybodaeth i bob preswylydd, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos.