Cyllid ECO 3 Flex
O dan gyllid Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni Llywodraeth y DU, mae yna ran ddewisol lle mae modd i awdurdodau lleol fynd yn uniongyrchol at gwmnïau neu osodwyr ynni er mwyn caniatáu i breswylwyr cymwys gael gafael ar gyllid ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn rhan o 'Gymhwyster Hyblyg' (ECO Flex).
Mae modd i'r cyllid gynnig mesurau arbed ynni wedi'u disgowntio a/neu eu hariannu'n llawn, yn amodol ar y lefelau ariannu ac argaeledd y gosodwyr, y cwmnïau ynni neu eu hasiantaethau. Mae modd i lefelau ariannu newid ar unrhyw adeg er bod y cyfnod ECO yn rhedeg tan fis Mawrth 2022.
Rôl yr Awdurdod Lleol yw gosod a dilysu meini prawf cymhwyster a does dim gyda ni unrhyw reolaeth dros lefelau neu argaeledd y cyllid. Rydyn ni'n effro i nifer o gwmnïau yn y farchnad sydd â chyllid ECO FLEX ar hyn o bryd ac mae modd i ni roi cyngor pellach i chi i'ch helpu i ddod o hyd i osodwr.
Mae manylion y meini prawf cymhwyster yn ein Datganiad o Fwriad.
I wneud cais cliciwch yma
I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Garfan Gwresogi ac Arbed: 01443 281136 neu e-bostio gwresogiacarbed@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Mae’r ddogfen yma ar gael yn y Gymraeg / This document is available in Welsh.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.