Skip to main content

Benthyciadau Gwella Cartrefi

Mae benthyciadau di-log hyd at £25,000 (yn amodol ar statws) bellach ar gael yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer perchen-feddianwyr sy'n ystyried gwneud gwelliannau i'w heiddo. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar wefan Robert Owen Community Banking.

Mae modd i landlordiaid a buddsoddwyr sydd â diddordeb mewn benthyciadau di-log ddod o hyd i wybodaeth yma: Cynllun Troi Tai'n Gartrefi.

Bydd benthyciadau yn cael eu hystyried ar gyfer gwaith sy'n cyfrannu at gynhesu a diogelu'r eiddo yn unig.

Bydd cymhwysedd yn amodol ar Amodau a Thelerau penodol y benthyciad a byddwn ni'n cynnal gwiriadau fforddiadwyedd, credyd a risg ar gyfer pob ymgeisydd.

Ffoniwch y Garfan Strategaeth a Grantiau Tai ar 01443 281118 i gael rhagor o wybodaeth.