Skip to main content

Cynllun Dyrannu Tai

Mi hoffwn i, ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid o Gymdeithasau Tai, eich gwahodd i gymryd rhan mewn Ymgynghoriad ar ein Cynllun Dyrannu Tai. Mae gan y Cyngor rwymedigaethau statudol mewn perthynas â chyhoeddi Cynllun Dyrannu Tai a sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad i dai cymdeithasol i'r holl bobl sydd angen tŷ.  Yn RhCT, ers 2002, mae Cynllun Dyrannu Tai y Cyngor wedi cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymdeithasau Tai lleol. Mae'r Cymdeithasau Tai yma yn cynnwys Grŵp Tai Cymdeithasol Cynon Taf, Cymdeithas Tai Hafod, Cymdeithas Tai Newydd, Cymdeithas Tai Rhondda, Trivallis a Chymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin (Wales and West). 

Cafodd Cynllun Dyrannu Tai presennol Rhondda Cynon Taf ei gyflwyno yn 2014. Dros y chwe mis diwethaf mae'r Cyngor a'i bartneriaid o Gymdeithasau Tai wedi bod yn adolygu'r Cynllun Dyrannu Tai.

Dyma'r prif resymau dros yr adolygiad yma:

1. Sicrhau fod y Cynllun yn unol â 'Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd' Llywodraeth Cymru (2016).

 2. Yr arfer gorau yw adolygu ac ystyried Cynlluniau Dyrannu Tai bob ychydig flynyddoedd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n bodloni’r gyfraith ac arfer da, a bod y Cynllun yn trafod a mynd i'r afael ag angen tai yn effeithiol.

3. Gofalu fod fforddiadwyedd llety yn cael ei ystyried pan fo pobl yn gwneud cais am dai cymdeithasol.

4. Gofalu fod y stoc dai yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae'r newidiadau a gynigiwyd i'r Cynllun presennol yn dilyn yr adolygiad yma wedi'u crynhoi yn y daflen Ymgynghoriad sydd wedi'i hatodi ynghlwm. Hoffem ni glywed eich barn ynghylch y cynigion yma.  Mae'r Cynllun Dyrannu Tai cyfredol (2014) wedi'i hatodi ynghlwm hefyd. Hoffem ni glywed eich sylwadau, yn bennaf, ynghylch a fyddai'r newidiadau arfaethedig yn cael effaith negyddol ar unrhyw grŵp o bobl yn benodol. Cwblhewch yr arolwg ar-lein i ddweud eich dweud. 

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno'ch barn yw 23ed Mawrth 2018.

Bydd eich atebion i gwestiynau'r arolwg yn cael eu defnyddio at ddiben llywio'r newidiadau a byddwn ni'n cadw'ch atebion yn gyfrinachol. Mae disgwyl i'r Cynllun Dyrannu Tai newydd gael ei gyflwyno yng Ngwanwyn 2018 yn dilyn yr ymgynghoriad yma.

Hoffech chi ymateb yn ysgrifenedig? Oes gyda chi unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Croeso i chi ffonio (01443) 281136, neu ebostio  StrategaethDai@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Diolch i chi ymlaen llaw am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.