Skip to main content

Cyngor i denantiaid preifat

Mae pobl sy'n rhentu eiddo â hawl i fyw mewn cartrefi diogel sydd ddim yn peryglu eu Hiechyd a'u Diogelwch.

Cyn llofnodi contract ar gyfer eiddo, dylech chi sicrhau eich bod chi wedi gweld yr eiddo sawl gwaith, a'ch bod chi'n fodlon ar ei gyflwr. Os oes angen unrhyw waith, dylech chi fynnu ei fod yn cael ei gwblhau cyn i chi lofnodi'r cytundeb tenantiaeth.

Os bydd unrhyw broblemau yn codi yn eich eiddo ar ôl i chi symud i mewn, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â'r asiant gosod tai a/neu'r landlord, i geisio datrys y broblem yn gyfeillgar yn y lle cyntaf. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, fe gewch chi gysylltu â'r Garfan Materion Tai ar 01443 425777. Bydd Swyddog yn trefnu apwyntiad i archwilio'r eiddo ac os daw o hyd i unrhyw beryglon arwyddocaol, gall ofyn i'r landlord wneud y gwaith angenrheidiol.

Mae Canolfan Cyngor ar Faterion Tai hefyd y mae modd cysylltu â hi ar 01443 495188, sy'n gallu cynorthwyo os yw anghydfodau cytundebol yn codi.

Cysylltu â ni

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk