Rydyn ni wedi recriwtio ar gyfer 26 o brentisiaethau eleni. Gweler y prentisiaethau isod sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae modd gweld yr holl swyddi gwag ar ein gwefan: Swyddi gwag
Prentisiaeth | Nifer y swyddi |
Cynorthwy-ydd Gorfodi dan Brentisiaeth
|
2
|
Gweithiwr Gofal Cymdeithasol dan Brentisiaeth
|
4
|
O ganlyniad i feini prawf Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych gymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 3, fyddech chi ddim yn gymwys i wneud cais am rôl Gweinyddu dan Brentisiaeth. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Amserlen Ymgeisio
13 Tachwedd 2020 - Cyfnod cyflwyno cais yn dechrau
11 Rhagfyr 2020 - Dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau
Canol mis Rhagfyr - Cyfnod Profi dawn ar-lein (os yw'n berthnasol i'r swydd)
21-23 Rhagfyr 2020 - Trefniadau cyfweld i'w gwneud
Mis Ionawr 2021 - Dechrau gweithio gyda RhCT
O ganlyniad i'r cyfyngiadau parhaus gyda Covid-19, mae'n bosibl y bydd y dyddiadau a'r trefniadau yma'n newid.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.