Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd Llywodraeth Leol, wrth iddo barhau i sicrhau gwasanaethau gwell ochr yn ochr â gwerth am arian.
Mae gweithio ym myd Llywodraeth Leol yn un o'r heriau caletaf ac ysgogol i'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n effeithio ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.
Unwaith eto, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dymuno recriwtio graddedigion talentog i'n hamrediad eang o gynlluniau i raddedigion. Mae pob un o'r cynlluniau yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu medrau newydd, datblygu'n broffesiynol a chamu i fyd gwaith y sector cyhoeddus.
Bydd graddedigion yn:
- Ennill £27,041 y flwyddyn ac yn gweithio 37 awr yr wythnos
- Cwblhau amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol a gaiff eu hariannu'n llawn
- Gweithio oriau hyblyg
- Cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau'r banc
- Cael eu mentora gan aelodau uwch o staff
- Cael y cyfle i fanteisio ar ystod eang o gynlluniau buddion staff gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, cynllun Cycle2Work a chynllun talebau gofal plant
- Cael cerdyn buddion staff ‘Vectis’
Mae llawer o raddedigion o flynyddoedd blaenorol wedi llwyddo i gael swyddi rheoli yn syth ar ôl cwblhau'r cynllun. Yn ogystal â hynny, mae dau swyddog graddedig o flynyddoedd blaenorol ar hyn o bryd yn benaethiaid gwasanaeth yn y Cyngor.
Os oes gyda chi'r cymhelliad a'r angerdd i fod yn gymorth inni ysgwyddo ystod eang o gyfrifoldebau, mae croeso ichi gyflwyno cais i fod yn rhan o'n cynllun i raddedigion.
Amserlen Gwneud Cais
9 Tachwedd 2020 - Cyfnod cyflwyno cais yn dechrau
Mis Rhagfyr 2020 - Cyfnod cyflwyno cais yn dod i ben (Gweler y swyddi unigol am y dyddiadau amrywiol)
Mis Rhagfyr 2020 - Canolfan Asesu (os yw gofynion y swydd yn nodi hyn)
Mis Rhagfyr 2020- Cyfweliadau (gall y dyddiadau hyn newid)
Mis Ionawr 2021 - Yr wythnos gyntaf o weithio ar y Rhaglen i Raddedigion.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.