Rydyn ni’n cynnig nifer o raglenni cymorth cyflogaeth sydd wedi'u hariannu gan grantiau ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhain yn cynnig cymorth a chyngor i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol sy'n hŷn nag 16 oed ac sy'n ceisio cyflogaeth, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli. Mae hefyd modd derbyn cymorth i ddatblygu eich sgiliau os ydych chi eisoes mewn cyflogaeth.
Manteisiwch ar gymorth un wrth un i wneud newidiadau cadarnhaol; boed hynny er mwyn bod yn fwy heini, manteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu weithgareddau, ennill cymwysterau, gwirfoddoli a dod o hyd i swydd
Cyfleoedd wedi'u hachredu a chyfleoedd heb eu hachredu i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau newydd i’w rhoi ar eich CV.
Hyfforddiant ac arweiniad un-wrth-un er mwyn eich cynorthwyo chi i gyflawni eich potensial a theimlo'n fwy parod i ddatblygu eich gyrfa.
Cymorth wrthfanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith yn ogystal â chysylltiadau uniongyrchol â chyfleoedd gwaith ym mhob sector
Cymorth wrth chwilio am swyddi a llunio CV
Cysylltu â ni:
I ofyn cwestiwn cyffredinol, cysylltwch â:
Carfan Cymorth Ganolog: Tŷ Elái, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY
Ffôn: 01443 425761
E-bost: CAW@rctcbc.gov.uk
Rhaglenni wedi'u Hariannu gan Grantiau:
Caiff ein cyngor a chymorth cyflogaeth eu darparu trwy'r rhaglenni canlynol sydd wedi'u hariannu gan grantiau. Bwriwch olwg ar bob dolen am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt:
Rhaglen bartneriaeth Llywodraeth Cymru rhwng awdurdodau lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau ac sydd wedi'i hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yw Cymunedau am Waith. Mae’n gweithio gyda phobl o bob oed i ddarparu cymorth a chyngor ar ddod o hyd i gyflogaeth a hyfforddiant.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cymorth i bawb yn Rhondda Cynon Taf sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli.
Mae cynllun Ysbrydoli i Weithio yn brosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a'i nod yw darparu hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau cyflogaeth i bobl ifainc 16-24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Mae rhaglen Cadw'n Iach yn y Gwaith yn cefnogi iechyd a lles staff sy'n cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf. Mae ein gwasanaethau ar gael i fusnesau ac unigolion yn Rhondda Cynon Taf a hynny dan arweiniad Cyngor Rhondda Cynon Taf ac wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop