Unwaith y bydd pobl yn dechrau gweithio, maen nhw'n aml yn anghymwys i gael cefnogaeth gan raglenni cyflogaeth eraill. Gyda hyn mewn golwg, mae gyda ni raglen CYMORTH YN Y GWAITH.
Nid cynllun ariannu ar gyfer ailhyfforddi’n llwyr yw'r rhaglen yma, ond mae modd i’n gwasanaeth ddarparu hyfforddiant un wrth un a chynnig arweiniad i’ch helpu i gyflawni eich potensial a bod mewn sefyllfa well i ddatblygu eich gyrfa.
Efallai eich bod chi ar gontractau dim oriau, cyflog isel neu'n ei chael hi'n anodd yn ariannol ac yn gweithio'n rhan-amser neu'n llawn amser. Mae modd i'n mentoriaid cymorth yn y gwaith eich helpu chi i ystyried sut i gynyddu'ch oriau neu ddod o hyd i gyfleoedd pellach mewn sector arall.
Mae ganddyn nhw wybodaeth helaeth am gymorth cyflogaeth a chyfleoedd pellach.
Bwriwch olwg ar ein llyfryn Cymorth yn y Gwaith.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu’r rhaglen Cymorth yn y Gwaith.